Llywodraeth Cymru, Ymchwil gymdeithasol (42/2013)

Polisi amlwg gan Lywodraeth Cymru ar gyfer addysg blynyddoedd cynnar (i blant 3-7 oed) yng Nghymru yw’r Cyfnod Sylfaen. Mae’n newid cyfeiriad sylweddol o’r dull mwy ffurfiol ar sail galluoedd oedd yn gysylltiedig â’r Cwricwlwm Cenedlaethol blaenorol ar gyfer Cyfnod Allweddol 1. Mae’r polisi wedi’i gyflwyno fesul tipyn dros y saith mlynedd ddiwethaf er mwyn iddo gynnwys pob plentyn 3-7 oed yng Nghymru erbyn 2011/12.

Ar ran Gweinidogion Cymru, gwahoddodd Llywodraeth Cymru dendrau ym mis Ebrill 2011 i gynnal gwerthusiad annibynnol tair blynedd o hyd o’r Cyfnod Sylfaen. Yn dilyn proses dendro gystadleuol, penodwyd tîm o ymchwilwyr, o dan arweiniad yr Athro Chris Taylor o Brifysgol Caerdydd a Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD), i gynnal y gwerthusiad ym mis Gorffennaf 2011.