Llywodraeth Cymru, Ymchwil gymdeithasol (75/2014)

Mae’r Cyfnod Sylfaen (a gyflwynwyd yn 2008) yn cynnig cwricwlwm o ddysgu trwy brofiad, sy’n briodol yn ddatblygiadol, i blant 3 i 7 oed yng Nghymru. Nod y gwerthusiad annibynnol (dan arweiniad WISERD), a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, yw gwerthuso pa mor dda y caiff ei roi ar waith, beth fu ei effaith, a ffyrdd o’i wella. Mae’r gwerthusiad tair blynedd yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau cymysg ar raddfa genedlaethol a lleol. Dyma un o bedwar papur sy’n canolbwyntio ar weithredu. Mae’n defnyddio 604 o ymatebion gan ysgolion a lleoliadau i arolwg, 37
cyfweliad ag Awdurdodau Lleol, pedwar cyfweliad â lleoliadau nas cynhelir, 357 o gyfweliadau ag ymarferwyr a 41 o arsylwadau mewn ysgolion sy’n astudiaethau achos.