Llywodraeth Cymru, Ymchwil Gymdeithasol (53/2014)

Mae’r Cyfnod Sylfaen (a gyflwynwyd yn 2008) yn cynnig cwricwlwm o ddysgu trwy brofiad, sy’n briodol o ran datblygiad plant 3 i 7 oed yng Nghymru. Nod y gwerthusiad annibynnol (dan arweiniad WISERD), a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, yw gwerthuso pa mor dda y caiff ei roi ar waith, beth fu ei effaith, a ffyrdd o’i wella. Mae’r gwerthusiad tair blynedd yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau cymysg ar raddfa genedlaethol a lleol.

Dyma un o bum papur sy’n canolbwyntio ar ymarfer. Mae’n cwmpasu 239 o arsylwadau ar ddosbarthiadau a lleoliadau, 341 o gyfweliadau ag ymarferwyr, 604 o ymatebion gan ysgolion a lleoliadau i arolwg, 37 cyfweliad ag Awdurdodau Lleol a phedwar cyfweliad â lleoliadau nas cynhelir.