Llywodraeth Cymru, Ymchwil gymdeithasol (01/2015)

Mae’r Cyfnod Sylfaen yn bolisi blaenllaw gan Lywodraeth Cymru ar gyfer addysg y blynyddoedd cynnar (i blant 3 i 7 oed) yng Nghymru. Gan ddilyn trywydd tra gwahanol i’r dull mwy ffurfiol, seiliedig ar allu oedd yn gysylltiedig â Chwricwlwm Cenedlaethol blaenorol Cyfnod Allweddol 1, mae’n hyrwyddo dull dysgu ac addysgu datblygol, arbrofol, sy’n seiliedig ar chwarae. Mae Y Wlad sy’n Dysgu: Dogfen Ymbaratoi (CCC 2001) yn nodi mai bwriad Cymru, ar ôl datganoli, yw dilyn ei chwys ei hun yng nghyd-destun polisi er mwyn ‘gwneud yr hyn sydd orau i Gymru’.Yn ôl pob golwg, roedd gwneud yr hyn sydd orau i Gymru yn cynnwys mynd i’r afael â heriau’r farchnadle fyd-eang (codi lefelau sgiliau sylfaenol1); goresgyn anfantais gymdeithasol, adeiladu cymdeithas gref a mentrus sy’n cofleidio amlddiwylliant; a hyrwyddo iaith a thraddodiadau Cymru. Roedd cymryd rhan yn cael ei ystyried yn ymagwedd allweddol.