Llywodraeth Cymru, Ymchwil gymdeithasol (16/2014)

Yn yr adroddiad hwn, amlinellwn gynnydd y gwerthusiad yn ystod y flwyddyn ddiwethaf (2012/13). Hefyd, rhown fanylion am Gyfnod II y gwerthusiad; i raddau helaeth, mae wedi cynnwys casglu gwybodaeth fanwl am weithredu’r Cyfnod Sylfaen mewn pedwar deg un ysgol a deg lleoliad a ariennir nas cynhelir ym mhob cwr o Gymru.

Dyma bedwar prif nod y gwerthusiad tair blynedd (2011-2014), fel yr amlinellodd Llywodraeth Cymru ym manylion y tendr ymchwil gwreiddiol:

  • gwerthuso pa mor dda mae’r Cyfnod Sylfaen yn cael ei roi ar waith ac amlygu pa welliannau allai gael eu gwneud (gwerthusiad o’r broses)
  • gwerthuso pa effaith mae’r Cyfnod Sylfaen wedi’i chael hyd yma (gwerthusiad o’r deilliannau)
  • asesu gwerth am arian y Cyfnod Sylfaen (y gwerthusiad economaidd)
  • sefydlu fframwaith gwerthuso er mwyn olrhain allbynnau a deilliannau’r Cyfnod Sylfaen yn y dyfodol (y fframwaith gwerthuso)