Newyddion WISERD, Argraffiad 20
Croeso gan Gyfarwyddwr WISERD
Yn y rhifyn hwn o Newyddion WISERD ceir amrywiaeth o newyddion o bob rhan o sefydliadau partner WISERD a rhai o’r ychwanegiadau diweddaraf i flog WISERD; rwy’n gobeithio bod y rhifyn yn dangos ein cyfraniad parhaus i ymchwil ym maes y gwyddorau cymdeithasol a’r ffyrdd yr ydym yn dylanwadu ar bolisïau yng Nghymru.
Ag aflonyddwch diwydiannol a newidiadau i’r gweithle wedi’r pandemig yn gefndir iddi, mae ein hymchwil ar y byd gwaith sy’n esblygu wedi dod yn fwy perthnasol fyth, ac mae sawl erthygl ynghylch y pwnc yn cael sylw yn y rhifyn hwn. Rwy’n falch o adrodd bod rhagor i ddod ar hyn hefyd. Mae’r Athro
Alan Felstead wedi sicrhau dros £2m o gyllid, yn bennaf gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), i gynnal rownd ddiweddaraf yr Arolwg Sgiliau a Chyflogaeth. Mae canlyniadau arolygon blaenorol wedi dylanwadu ar feddylfryd llywodraeth y DU o ran polisïau ar y pwnc, felly mae’n hanfodol bod y gwaith hwn yn parhau.
Rydym hefyd yn dylanwadu ar bolisïau ac ymarfer gyda chanfyddiadau ein Hastudiaeth Aml-garfan Addysg WISERD, sy’n dathlu ei ben-blwydd yn 10 oed eleni. Yn ddiweddar, fe gyflwynon ni dystiolaeth i Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd ar ddiwygio’r cwricwlwm, yn seiliedig ar ganlyniadau’r arolwg o bobl ifanc, eleni. Gallwch ddarllen rhagor ynghylch y canfyddiadau diweddaraf ar dudalen 27 a lawrlwytho cardiau post ynghylch y canfyddiadau o’n gwefan.
Braf oedd gweld cymaint o aelodau’r cyhoedd yn ymweld â’n harddangosfa ffotograffiaeth ‘Pen rheswm / Gwrando’r Galon: Darlunio Dyfodol Cymru (gweler tudalen 18). Fe’i cynhaliwyd yn Bandstand Aberystwyth yn gynharach eleni, ac fe’i lansiwyd yn ffurfiol gan Elin Jones, AS Ceredigion, Llywydd y Senedd. Dan arweiniad Dr Anwen Elias a Dr Elin Royles o Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae’r prosiect yn defnyddio ffotograffiaeth i ddeall sut mae pobl yn meddwl am annibyniaeth yng Nghymru, yr Alban a Chatalwnia, ac mae wedi cael ei ddisgrifio fel ‘y cyntaf o’i fath yn y byd’ o ran y ffordd mae’n ymdrin â hyn.
Mae ein dulliau arloesol hefyd yn caniatáu i’n hymchwil ddatblygu i fynd i’r afael yn well â’r materion yr ydym yn ymdrin â hwy. Mae ein gwefan Deall Lleoedd Cymru wedi’i diweddaru’n ddiweddar, a cheir mapiau newydd arni bellach sy’n dangos ystod y lleoedd y gallwch eu cyrraedd o fewn 30 munud
wrth ddefnyddio amrywiol ddulliau teithio (gweler tudalen 14). Hefyd, mae ein hastudiaeth ar fynediad at gyfleusterau chwaraeon sy’n seiliedig ar deithio preifat wedi datblygu’n ddiweddar, ac mae bellach yn cynnwys dulliau eraill o deithio; mae hyn yn helpu gyda chyflwyno darlun llawer mwy manwl o batrymau hygyrchedd ac fe allai sefydliadau chwaraeon ei ddefnyddio i gynllunio darpariaethau (gweler tudalen 10) .
Yn olaf, yn dilyn digwyddiad llwyddiannus ar Gampws y Bae Prifysgol Abertawe y llynedd (gweler tudalen 12), mae’n bleser gennym unwaith eto gynnal Cynhadledd Flynyddol WISERD wyneb yn wyneb, ym Mhrifysgol Bangor y tro hwn. Thema eleni yw ‘Cymdeithas sifil a llywodraethu mewn oes o argyfwng’. Edrychwn ymlaen at groesawu ein prif siaradwyr, yr Athro Paul Spicker, Athro Emeritws ym Mhrifysgol Robert Gordon a Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru.
Gobeithio y byddwch yn mwynhau’r rhifyn hwn o Newyddion WISERD.
Yr Athro Ian Rees Jones
Cyfarwyddwr WISERD