Poole, J., Davies, R. a Huxley, K. (2026) Dilysu mesurau o ddefnydd iaith Gymraeg. Caerdydd: Ymchwil Data Gweinyddol Cymru (YDG Cymru).
Defnyddir y Cyfrifiad fel y ffynhonnell ddata allweddol ar gyfer olrhain cynnydd tuag at darged Cymraeg 2050 o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Fodd bynnag, mae gwahanol ffynonellau data yn dangos lefelau gwahanol iawn o sgiliau iaith Gymraeg. Mae’r Cip ar Ddata hwn yn dangos y cyfraniad y gall data gweinyddol ei wneud o ran dilysu mesurau amgen o sgiliau iaith Gymraeg. Mae dadansoddiad yn datgelu bod cofnodi rhuglder o fewn cofnodion ysgol yn rhagfynegydd da o benderfyniadau disgyblion i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn y brifysgol wedi hynny. Mae’r mesur hwn yn cyd fynd yn agos ag asesiadau’r myfyrwyr eu hunain o’u rhuglder yn y Gymraeg. Mae mesur y Cyfrifiad o sgiliau iaith Gymraeg, o’i gymharu, yn rhagfynegydd gwael o ddewisiadau dilynol i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.