Mae Astudiaeth Aml-Garfan Addysg WISERD (WMCS) yn astudiaeth hydredol flynyddol i nodi cynnydd plant a phobl ifanc sy’n tyfu i fyny yng Nghymru. Rydym yn dilyn carfanau o ysgolion ledled Cymru ac yn gofyn cwestiynau am eu profiadau o’r ysgol yn ogystal â’u safbwyntiau ar faterion cyfoes. Eleni, gwnaethom gynnwys set o gwestiynau ar eu defnydd o ddeallusrwydd artiffisial.

Yma, rydym yn cynnig trosolwg o ganfyddiadau cynnar arolwg 2024-25 gyda niferoedd wedi’u talgrynnu i’r ganran gyfan agosaf. Mae crynodebau o’r canlyniadau ar gyfer ein holl gwestiynau o bob blwyddyn o’r arolwg (2012 ymlaen) ar gael ar Borth Data WISERD.

Cyhoeddiad yn dod yn fuan.