Croeso gan Gyfarwyddwr WISERD

Rydym hanner ffordd drwy gyfnod pum mlynedd Canolfan Ymchwil y Gymdeithas Sifil. Mae pob prosiect bellach ar y gweill, ac mae nifer o brosiectau hirdymor yn tynnu at eu terfyn. Felly, peth amserol yw bod y rhifyn hwn o Newyddion WISERD yn tynnu sylw at ein cyfraniad at ymchwil y gwyddorau cymdeithasol a sut rydym yn dylanwadu ar bolisïau yng Nghymru.

Rydym yn parhau i ddefnyddio dulliau arloesol o ymchwilio i’r materion sydd fwyaf perthnasol i gymdeithas. Er enghraifft, drwy ddefnyddio offer rhwydweithio soffistigedig sy’n seiliedig ar systemau gwybodaeth ddaearyddol, mae ein tîm ym Mhrifysgol De Cymru wedi bod yn dadansoddi sut mae pandemig COVID-19 wedi effeithio ar wasanaethau bysiau ledled Cymru. Dechreuodd y gwaith hwn tua’r un adeg y gwnaeth y Senedd gyhoeddiadau ynghylch dyfodol gwasanaethau bysiau yng Nghymru, gan gynnwys cyhoeddi papur gwyn ar drafnidiaeth gyhoeddus. Dyma un ffordd y mae ein hymchwil bresennol wedi datblygu i fynd i’r afael â phroblemau cymdeithasol, fel pandemig COVID-19 ac, yn fwyaf diweddar, argyfwng y ffoaduriaid o Wcráin.

Ar ddechrau’r flwyddyn hon, symudodd tîm WISERD Caerdydd i sbarcIspark, adeilad newydd o’r radd flaenaf lle gall ymchwilwyr weithio ochr yn ochr ag entrepreneuriaid a myfyrwyr sydd wedi dechrau busnes newydd. Mae ein blog, ‘Pŵer Partneriaeth’, yn taflu goleuni ar ystyr hyn i ddyfodol ymchwil y gwyddorau cymdeithasol.

Mae’n wych gweld cydweithwyr WISERD yn cael eu cydnabod am eu harbenigedd mewn meysydd sy’n cynnwys datganoli a lles, marchnadoedd llafur a dyfodol cyfansoddiadol Cymru. Yn ychwanegol at yr erthyglau sydd i’w darllen, rwy’n falch o gyhoeddi bod yr Athro Sally Power hefyd wedi’i hethol yn aelod o Gyngor Cymdeithas Ymchwil Addysgol Prydain (BERA).

Yn olaf, ar ôl dwy flynedd o aros, rydym yn falch iawn o fod yn cynnal Cynhadledd Flynyddol wyneb-yn-wyneb unwaith eto. Y tro hwn, bydd yn cael ei chynnal ar Gampws y Bae Prifysgol Abertawe. Y thema eleni fydd ‘Cymdeithas sifil a chymryd rhan: materion sy’n ymwneud â chydraddoldeb, hunaniaeth a chydlyniant mewn tirwedd gymdeithasol sy’n newid’. Edrychwn ymlaen at groesawu ein prif siaradwyr, yr Athro Mererid Hopwood o Brifysgol Aberystwyth a Dr Victoria Winckler, Cyfarwyddwr Sefydliad Bevan.

Gobeithio y byddwch yn mwynhau’r rhifyn hwn o Newyddion WISERD.

Yr Athro Ian Rees Jones
Cyfarwyddwr WISERD