Pa mor uchel yw aelodaeth o undebau llafur lle rydych chi’n byw?

Mae UnionMaps yn rhoi amcangyfrifon o aelodaeth undebau llafur a chwmpas cytundebau tâl cyfunol ar gyfer ardaloedd daearyddol penodol. Mae’r ffigurau sy’n ymwneud ag aelodaeth o undebau llafur yn deillio o’r Arolwg o’r Gweithlu, sef y brif ffynhonnell ddata a ddefnyddir wrth gynhyrchu ystadegau swyddogol ar gyfer aelodaeth o undebau llafur yn y DU. Mae’r wybodaeth sy’n ymwneud â chytundebau tâl cyfunol yn deillio o’r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion. Mae data ar gael ar gyfer Ardaloedd Awdurdodau Unedol ac Awdurdodau Lleol Prydain Fawr: mae dros 400 ardal o’r fath.

Mae UnionMaps yn cynnig data yn seiliedig ar ardal breswyl ar gyfer y mesurau canlynol:

  • Dwysedd undebwyr: Canran y gweithwyr sy’n aelod o undeb llafur.
  • Presenoldeb undebau: Canran y gweithwyr sy’n aelod o undeb llafur neu sy’n cael eu cyflogi mewn gweithle lle mae eraill yn aelodau.
  • Cwmpas undebau: Cyfran y gweithwyr sy’n datgan bod eu cyflogwr ac undeb llafur yn negodi telerau cyflog ac amodau gwaith.
  • Cytundeb tâl ar y cyd: Canran y gweithwyr mae eu cyflog wedi’i osod yn unol â chytundeb sy’n effeithio ar fwy nag un gweithiwr.
  • Tuedd: Y tebygolrwydd cymharol y bydd gweithwyr yn ymuno ag undeb gan gymryd i ystyriaeth nodweddion personol a nodweddion sy’n gysylltiedig â’u swydd.

Defnyddiwch y ddolen isod i weld y map rhyngweithiol. Ar ôl ei agor, cliciwch ar y map neu defnyddiwch yr adnodd chwilio (nad yw ar gael i bob dyfais symudol) i gynhyrchu adroddiadau ardal o aelodaeth undeb ar gyfer lleoliad penodol. Fel arall, defnyddiwch ‘Mapiwch y data’ i weld sut mae’r gwahanol fesurau o aelodaeth o undebau llafur yn amrywio ar draws Prydain Fawr.

Cyfeiriwch at y Nodyn Ymchwil Amrywiadau Daearyddol mewn Aelodaeth o Undebau Llafur am drafodaeth fanylach ar y data hwn. Defnyddiwch y Compendia Ystadegol sydd wedi’i gynnwys i weld y data cyfan.