Mae AddysgWISERD yn cynnwys dau brif ddimensiwn ymchwil:

  • Astudiaethau carfan
  • Integreiddio data

Wrth ymgymryd â’r ymchwil hon, rydym am gynnwys ymchwilwyr ar hyd a lled Cymru gyfan.

Yr astudiaethau carfan

Yn 2012, nodom dros ugain o ysgolion cynradd ac uwchradd a oedd yn hapus i gyfranogi yn AddysgWISERD drwy ganiatáu i ni ddilyn cynnydd dosbarth o blant dros y tair blynedd nesaf.  Mae’r ysgolion hyn yn cynrychioli’r amrywiaeth eang o ysgolion yng Nghymru.  Maent wedi’u lleoli ledled Cymru – mewn ardaloedd gwledig a threfol, ac maent yn cynnwys ysgolion cyfrwng Cymraeg, cyfrwng Saesneg ac ysgolion dwy ffrwd iaith.

Yn 2012 cynhaliom arolwg o:

  • 345 o ddisgyblion Blwyddyn 6 mewn 16 o ysgolion cynradd
  • 412 o ddisgyblion Blwyddyn 8 mewn 13 o ysgolion uwchradd, a
  • 436 o ddisgyblion Blwyddyn 10 yn yr un ysgolion uwchradd hyn

Yn 2013 a 2014, byddwn yn ymweld eto â phob un o’r myfyrwyr hyn i ddilyn eu cynnydd. Yn 2013, byddwn hefyd am gynnal arolwg o:

  • 300 o ddisgyblion Blwyddyn 2 mewn xx o ysgolion cynradd

Yn ein harolygon, rydym yn awyddus i gasglu data ar brofiad y plentyn o’r ysgol.  Yn ogystal, rydym wrthi’n cynnal arolwg o’u rhieni a’u gofalwyr, i ganfod beth yw canfyddiadau rhieni o ysgol ac addysg eu plentyn yn gyffredinol.

Yn 2013, byddwn hefyd wedi cwblhau cyfweliadau gyda phenaethiaid a llywodraethwyr y 29 ysgol hyn.  Bydd arolwg athrawon yn rhoi safbwynt gweithwyr proffesiynol i ni hefyd ar gryfderau a gwendidau gweithio yng Nghymru.

Integreiddio data

Yn ogystal â chasglu data newydd gan ddisgyblion, rhieni a gweithwyr proffesiynol, rydym yn awyddus i sicrhau ein bod yn gwneud y defnydd gorau o ddata sydd ar gael yn barod. Rydym wrthi felly yn gofyn am ganiatâd rhieni i gysylltu data a gedwir yn genedlaethol am gynnydd y plentyn â’n harolygon.  Gobeithiwn ehangu’r broses hon o integreiddio data i ystod o ddata uwchradd arall.

Cynnwys ymchwilwyr ledled Cymru

Mae’r data o’r astudiaethau carfan a setiau data eraill yn rhoi adnodd ffantastig i ymchwilwyr eraill ar hyd a lled Cymru i archwilio ystod gyfan o faterion addysgol pwysig.  Er mwyn manteisio hyd yr eithaf ar yr adnodd hwn, rydym yn ymgymryd yn rheolaidd ag:

  • Ymweliadau ag adrannau addysg ym mhrifysgolion Cymru i ddangos yr ymchwil ac ymgysylltu â’r gymuned addysg athrawon
  • Yn gwahodd ymchwilwyr addysg i fanteisio ar leoliadau AddysgWISERD i gynnal eu dadansoddiadau eu hunain gan ddefnyddio’r data.