Dr Anwen Elias yn taflu goleuni ar ymreolaeth i Corsica


Cafodd syniadau Dr. Anwen Elias ar ymreolaeth i Corsica eu cynnwys yn Nation Cymru ar 30 Medi.

Bu trafodaethau am ymreolaeth Corsica yn cael eu cynnal ers 18 mis, ac mewn araith yn ddiweddar mynegodd Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron ei gefnogaeth unwaith eto i gytundeb ymreolaeth newydd.

Mae Dr. Elias yn dadlau serch hynny bod y trafodaethau yn anodd, ac y bydd yn dipyn o her cael ateb sy’n plesio pawb. Mae’r cyd-destun gwleidyddol yn anodd, yn cynnwys y ffaith bod cynnydd yn nifer yr ail gartrefi sy’n cael eu llosgi’n fwriadol.

Darllenwch yr erthygl yma: https://nation.cymru/news/macron-opens-door-for-corsican-autonomy/


Rhannu