Rhaglen ar ITV yn rhoi sylw i streic y glowyr rhwng 1984 a 85


Yn dilyn ein digwyddiad diweddar, ‘Y gorffennol yn y presennol: Y diwydiant glo a streic y glowyr 1984-85’ cawsom sylw ar raglen arbennig ar ITV Wales, a ddarlledwyd dydd Llun 4 Mawrth yn canolbwyntio ar ddigwyddiadau 1984-85 a’u dylanwad o hyd ar economi, pobl, gwleidyddiaeth a chymunedau Cymru. Gwyliwch un o’n siaradwyr yn y digwyddiad, Dai Donovan (2m22eil), ar y rhaglen.

Rhoddwyd sylw i’n digwyddiad hefyd ar raglen Sharp End ar ITV a ddarlledwyd nos Fawrth 5 Mawrth am 10.45pm gyda chyfweliadau gan ein siaradwyr, Dr Ben Curtis a Dai Donovan (3m55eil). Roedd Steve Davies, Cymrawd Ymchwil Anrhydeddus Prifysgol Caerdydd, ac un o brif drefnwyr digwyddiad WISERD, hefyd yn rhan o banel, ochr yn ochr ag Elin Royles, sy’n gydweithiwr WISERD ym Mhrifysgol Aberystwyth (13m12eil).


Share