Cymrawd Gwadd o Sefydliad Technoleg India, Delhi, yn cyflwyno seminar WISERD ar Gymdeithas Sifil, Ffydd a Thrawsnewidiad Cymdeithasol yng nghefn gwlad India


Ar 25 Gorffennaf, daeth y Cymrawd Gwadd enwog, Dr Sarbeswar Sahoo o Sefydliad Technoleg India, Delhi, i gyflwyno seminar llawn gwybodaeth o dan y teitl: ‘“The Lord Always Shows the Way!” Women’s Narratives on Conversion and Social Transformation in Rural India’. Yn y cyflwyniad, dadansoddodd Dr Sahoo pam mae nifer fawr o fenywod llwythol yn troi at Bentecostiaeth yn India heddiw. Yn benodol, edrychodd ar yr hyn sy’n eu cymell i ddianc o’u system ffydd draddodiadol, gan ddefnyddio gwaith maes ethnograffig yn Rajasthan.

Sarbeswar Sahoo gives WISERD Seminar on Civil Society, Faith and Social Transformation in Rural India

Roedd canfyddiadau’r astudiaeth yn datgelu sut mae eglwysi Pentecostaidd wedi gwneud ymdrechion arbennig i fynd i’r afael â phroblemau beunyddiol menywod llwythol, sydd yn ei dro, wedi’u denu’n fwy agos at yr eglwys. Yn ogystal, dangosodd y data newydd sut mae tröedigaeth grefyddol yn broses gymhleth na ellir ei hesbonio’n llawn drwy “ddisgwrs cymhelliad materol” (hynny yw, troi yn gyfnewid am rai cymhellion materol). Datgelwyd bod cymhellion materol, er eu bod yn bwysig, yn fyrhoedlog ac yn bethau dros dro. Yn ôl y sawl a gymerodd ran yn yr astudiaeth, gwelwyd nad oeddent yn dylanwadu’n gryf ar benderfyniad menywod i droi; yn anad dim oherwydd bod y rhai sydd wedi cael troëdigaeth yn wynebu stigma a chosbau o’r boblogaeth ehangach Hindŵaidd yn bennaf (nad ydynt wedi cael troëdigaeth). Yn hytrach, roedd Dr Sahoo yn dadlau bod troëdigaeth ysbrydol ac o ran ffydd, a achoswyd gan amrywiaeth o ffactorau, wedi bod yn bwysig o ran dylanwadu ar benderfyniad menywod llwythol i droi. Datgelodd yr ymchwil newydd fod y ‘ffactorau gwthio’ sy’n arwain at dröedigaeth yn cynnwys: y trais dyddiol y mae menywod llwythol yn ei wynebu – yn ogystal â salwch, tlodi, camfanteisio, newyn, a gwaradwydd. Ar y llaw arall, roedd y ‘ffactorau tynnu’ yn cynnwys canfyddiadau menywod o iachâd gwyrthiol Pentecostaidd, gobaith am les economaidd-gymdeithasol gwell, mynediad at addysg, mwy o ddisgyblaeth foesol, aelodaeth o gymuned o gredinwyr tosturiol, a gobeithion am berthynas deuluol well. Cyflwynir disgrifiad llawn o ymchwil Dr Sahoo yn ei lyfr diweddaraf, ‘Pentecostalism and Politics of Conversion in India’ (2018 – cyhoeddwyd gan Cambridge University Press

 

https://www.cambridge.org/core/books/pentecostalism-and-politics-of-conversion-in-india/7297925A826A0CA82CF7FEB2C17A2316

Yn siarad ar ôl seminar WISERD, dywedodd Cyd-gyfarwyddwyr WISERD, yr Athro Paul Chaney: “mae’n wych croesawu Dr Sahoo unwaith eto’n Gymrawd Gwadd, a chydweithio gydag ef fel rhan o’n rhaglen ymchwil rhyngwladol sy’n tyfu ynghylch yr heriau cyfoes y mae cymdeithas sifil yn eu hwynebu”

https://wiserd.ac.uk/research/research-projects/exploring-effective-practice-civil-society-organisations-promotion-human


Rhannu