Heddiw, mae WISERD yn cyflwyno gwasanaeth rhyngweithiol newydd sy’n galluogi defnyddwyr i weld data am aelodau undebau yn ardaloedd dros 400 o awdurdodau unedol a lleol Prydain. Mae UnionMaps yn galluogi defnyddwyr i gynhyrchu adroddiadau ardal o aelodaeth undebau ar gyfer lleoliad penodol neu edrych ar sut mae mesurau gwahanol o aelodaeth undebau yn amrywio ar draws Prydain.
Ers ei anterth ym 1979, mae cyfraddau aelodaeth undebau yn y DU wedi bod yn gostwng. Fodd bynnag, mae rhai rhannau’n parhau’n fwy undebol nag eraill. Dros nifer o flynyddoedd, mae ystadegau swyddogol wedi dangos bod aelodaeth undebau’n uwch ar draws rhanbarthau Gogledd Lloegr ac ymhlith cenhedloedd datganoledig y Deyrnas Unedig. Fodd bynnag, nid yw amcangyfrifon ar gyfer ardaloedd daearyddol manwl wedi bod ar gael o’r blaen.
Beth mae’r data yn ei ddatgelu?
Y lle mwyaf undebol yn y DU yw Copeland yn Cumbria. Mae Copeland, sydd wedi’i leoli’n rhannol yn hen ardal maes glo Cumbria, yn gartref i safle Prosesu Niwclear Sellafield, sydd â gweithlu undebol iawn. Er bod aelodaeth undebau yn y DU yn gysylltiedig yn gyffredinol â’r rheini sydd â gwerthoedd gwleidyddol asgell chwith, dewisodd Copeland AS Ceidwadol yn yr etholiad diwethaf.
Ymhlith y mannau eraill lle mae’r lefelau aelodaeth o undebau yn uchel mae Barrow-in-Furness, Castell-nedd Port Talbot, Merthyr Tudful, Gorllewin Dunbartonshire, Rhondda Cynon Taf, Durham, Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr a Wansbeck yn y Gogledd-ddwyrain. Ardaloedd gyda’r cyfraddau isaf o aelodaeth undebau yw Westminster, Kensington a Chelsea.
Mae Cymrawd Ymchwil WISERD, Rhys Davies, yn rhoi sylwadau ar y canfyddiadau:
“Mae aelodaeth undebau mewn ardal yn adlewyrchu etifeddiaeth hanesyddol y diwydiannau traddodiadol megis mwyngloddio, dur ac adeiladu llongau, a phwysigrwydd parhaus sectorau undebol o fewn yr economi fodern.
“Mae’r data’n datgelu’r amrywiadau diddorol o ran aelodaeth sy’n adlewyrchu bywgraffiadau unigryw ardaloedd unigol. Rydym yn gobeithio y bydd y wefan o ddiddordeb i ymchwilwyr, cymuned yr undebau llafur a phawb sydd â diddordeb mewn deall aelodaeth undebau.”
Rhagor o wybodaeth
Beth am gael gwybod faint sy’n aelod o undeb yn eich ardal chi? Cewch rhagor o wybodaeth am ein hymchwil ar undebau llafur ar ein gwefan.
Mae’r tîm o ymchwilwyr sy’n rhan o astudiaeth WISERD o aelodaeth undebau llafur yn cyflwyno’r canfyddiadau diweddaraf yn 151ain Cyngres flynyddol yr Undebau Llafur yng Nghanolfan Brighton heddiw. Dilynwch #WISERD_TUC19 i gael y wybodaeth ddiweddaraf.