O dan fframwaith sefydliadol y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MoU) a lofnodwyd rhwng Llywodraethau Cymru a Gwlad y Basg, nod y prosiect ‘Cydweithrediad Cymru a Gwlad y Basg’ yw sefydlu cyfres o ddigwyddiadau.
Yn y cyfarfod ar-lein cyntaf hwn edrychwn ymlaen at gyflwyniadau gan:
• Adolfo Morais, Is-Weinidog Prifysgolion ac Ymchwil
• Kellie Beirne, Prif Weithredwr Prifddinas-Ranbarth Caerdydd
• Miren Artaraz, Cyfarwyddwr Polisi Academaidd a’r Economi
• Yr Athro Phil Brown, Awdur yr Adolygiad o Arloesi Digidol ar gyfer yr Economi a Dyfodol Gwaith yng Nghymru
• Sara de la Rica, ym Mhrifysgol Gwlad y Basg, cyfarwyddwr Sefydliad Iseak (UPV/EHU)
• Yr Athro Chris Taylor, Cyfarwyddwr SPARK, Prifysgol Caerdydd
Yn benodol, mae prosiect cydweithrediad Cymru a Gwlad y Basg yn cyflwyno dau brif nod:
1. Rhannu arferion da rhwng Cymru a Gwlad y Basg o ran ymgysylltu â’r Brifysgol a chydweithredu rhwng Busnes + Prifysgol + Cymdeithas
2. Paratoi’r ffordd i ddod i gytundeb ar gyfer rhaglen gyfnewid yn y flwyddyn academaidd 2022-2023.
Cynhelir y cyfarfod hwn ar Zoom
Cyflwynir y digwyddiad hwn ar y cyd gan WISERD (Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru) a 4GUNE.
Os byddai gennych ddiddordeb mewn mynychu’r digwyddiad hwn, cysylltwch â WISERD.events@caerdydd.ac.uk