Mae Rhwydwaith Ymchwil Mudo Cymru yn falch o gyhoeddi symposiwm undydd ar gyfer ôl-raddedigion ac ymchwilwyr gyrfa gynnar (hunan-ddiffiniedig) sy’n gweithio ar agweddau ar fudo yng Nghymru neu wedi’u lleoli mewn sefydliadau yng Nghymru.
Nod y symposiwm ar-lein yw darparu awyrgylch cefnogol i ymchwilwyr rannu eu syniadau ar waith drafft a derbyn sylwadau adeiladol. Bydd pob cyfrannwr yn rhoi cyflwyniad 15 munud o hyd wedi’i ddilyn gan sesiwn H+A.
Amserlen
10:00 Croeso
10:05 Sarah Tierney (Prifysgol Abertawe) ‘Refugee Women and Welshness: Exploring identity, language ideology and experience pre and during the Covid-19 Pandemic in Wales’
10:25 Sarah Foster (Prifysgol Abertawe) ‘Picture Postcard Conversations: expressions of mobility, migration, rurality and welcome’
10:45 Trafodaeth
11:05 Ourania Vamvaka (Prifysgol Caerdydd) ‘LGBTQ+ forced migrant precarious lives in Wales’
11:25 Selina Lobina (Prifysgol De Cymru) ‘Capturing understandings of, and responses to loneliness: a study with a focus on older UK migrants’
11:45 Trafodaeth
12:05 Egwyl ginio
12:45 Gareth White (Prifysgol Bangor) ‘Building Little Italies in World War Two Wales: A Transnational Account of Italian Prisoners of War in Wales’
13:05 Maria-Christina Galanaki (Prifysgol Bangor) ‘Anti-immigration Vigilantism by the Far Right at the National Borders: The Case of Greece’
13:25 Trafodaeth
13:45 Dr Wendy A Booth a’r Imam Ahmed Mohammed (Prifysgol De Cymru) ‘Community Cohesion, Migration, and the Role of Mosques in Cardiff: The Views of Imams and Mosque Leaders’
14:05 Dr Bruna Chezzi (Prifysgol Caerdydd) ‘The fascinating story of Italians in Wales 1890-1940 between fiction and reality’
14:25 Trafodaeth
14:45 Diweddglo
Sefydlwyd Ymchwil Mudo Cymru ym mis Gorffennaf 2021 i annog cydweithio rhwng ymchwilwyr ar draws sefydliadau yng Nghymru i ddarparu ffocws cenedlaethol ar gyfer ymchwil mudo a dwyn ynghyd academyddion, rhanddeiliaid ac ymarferwyr sy’n gweithio gyda mudwyr ar faterion sy’n effeithio ar fudwyr.
Image credit: Haeferl, CC BY-SA 3.0, via Wikimedia Commons.