Mae ffilm ddogfen am ddementia a chyfathrebu o’r enw ‘The World Turned Upside Down’ yn cael ei lansio heddiw (23 Medi). Daw’r ffilm o brosiect ymchwil dementia ar raddfa fawr o’r enw IDEAL (Gwella’r profiad o ddementia a gwella bywyd egnïol: Byw’n dda gyda dementia), y mae WISERD wedi bod yn rhan ohono ers ei ddechrau yn 2014.
Mae IDEAL wedi’i leoli ym Mhrifysgol Caerwysg a nod y prosiect yw helpu i wella bywydau pobl â dementia a’u gofalwyr.
Mae ‘The World Turned Upside Down’ yn ymwneud â chyfathrebu ynghylch dementia. Mae llawer o sefyllfaoedd yn ymwneud ag unigolion ac aelodau o’u teulu, neu unigolion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, lle mae’r canlyniad yn dibynnu ar yr hyn sy’n cael ei gyfathrebu, a sut.
Mae cyfathrebu da ac effeithiol yn allweddol i alluogi diagnosis o ddementia, cefnogi pobl i addasu i fyw gyda dementia a chael mynediad at ofal ôl-ddiagnostig. Mae’r ffilm yn archwilio’r heriau hyn.