Cyflwynir gan Rhian Barrance a Esther Muddiman
Bydd y digwyddiad rhyngweithiol hwn yn cyflwyno ymchwil ar brotestio gan fyfyrwyr ysgol yn y DU. Mae protest myfyrwyr ysgol wedi cael sylw cynyddol yn y cyfryngau dros y blynyddoedd diwethaf. Mae llawer o hyn wedi bod yn gysylltiedig â materion byd-eang a rhyngwladol, fel yr hinsawdd. Fodd bynnag, cafwyd adroddiadau hefyd am brotestio gan ddisgyblion oherwydd polisïau, arferion a diwylliannau ysgolion. Mae’r rhain yn canolbwyntio ar amrywiaeth o faterion, gan gynnwys gwahaniaethu ar sail hil a rhywedd, cyfleusterau ysgol, a rheolau gwisg ysgol.
Bydd y digwyddiad yn edrych ar hanes protestio gan fyfyrwyr ysgol dros yr ugain mlynedd diwethaf – gan ystyried sut mae cymhellion a thactegau protest disgyblion wedi newid dros amser. Bydd yn gofyn beth sy’n arwain pobl ifanc i gymryd rhan mewn protest ar dir ysgolion a sut maen nhw’n protestio, gan ystyried dylanwad y cyfryngau cymdeithasol ar y don ddiweddar o brotestiadau mewn ysgolion.
Bydd y digwyddiad yn rhoi cyfleoedd i’r gynulleidfa roi eu profiadau o brotestio yn yr ysgol a gofyn cwestiynau i’r panel am eu gwaith ymchwil.