Bydd y seminar amser cinio hwn sydd ar-lein yn cael ei gyflwyno gan Jemma Bridgeman (Prifysgol Caerdydd), Alice Tawell (Prifysgol Rhydychen), Annie Taylor (Prifysgol Caeredin) a Gavin Duffy (Prifysgol y Frenhines, Belfast):

Bydd y cyflwyniad hwn yn archwilio canfyddiadau’r prosiect Bywydau wedi’u Gwahardd — prosiect ymchwil cymharol a gynhaliwyd gan Brifysgolion Caerdydd, Caeredin, Rhydychen, a Phrifysgol y Frenhines, Belfast. Amcan y prosiect oedd deall y gwahaniaethau mewn cyfraddau gwahardd o’r ysgol ar draws pedair awdurdodaeth y DU: Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban.

Er bod cyfraddau gwaharddiadau ffurfiol (parhaol a dros dro) yn amrywio’n fawr, mae ein hymchwil yn awgrymu bod arferion gwaharddiadau anffurfiol yn nodwedd ym mhob un o’r pedair system addysg, gan gynnwys, er enghraifft, symudiadau a reolir, ynysu, amserlenni wedi’u lleihau neu ran-amser, gwaharddiad mewnol, ac anfon adref heb waharddiad ffurfiol. Er bod astudiaethau eraill wedi tynnu sylw at y defnydd o waharddiadau anffurfiol, yn enwedig yn Lloegr, prin yw’r ymchwil ar ganlyniadau gwaharddiadau anffurfiol yn y DU. Gan ddefnyddio data o gyfweliadau â rhieni, disgyblion a gweithwyr proffesiynol o ysgolion craidd a gymerodd ran yn y prosiect Bywydau wedi’u Gwahardd, fe fyddwn ni yn y papur hwn yn amlinellu’r rhesymeg y tu ôl i ddefnyddio arferion gwahardd anffurfiol ac effaith eu defnyddio.

Byddwn yn archwilio sut mae ymarferwyr ysgolion wedi llunio’r defnydd o arferion anffurfiol, er enghraifft fel mesurau ataliol a ddefnyddir i leihau’r tebygolrwydd o wahardd yn ffurfiol drwy ddarparu cyfnodau ‘tawelu’ neu amser i ‘gychwyn eto’. Byddwn hefyd yn edrych ar rai o effeithiau arferion anffurfiol fel y trafodwyd gan bobl ifanc a’u teuluoedd, gan gynnwys sut effaith mae ynysu yn ei chael ar les pobl ifanc, colli’r cyfle i wneud gwaith ysgol drwy waharddiad mewnol, goblygiadau emosiynol ac ariannol i rieni/gofalwyr o ganlyniad i ddisgyblion yn cael eu hanfon adref dro ar ôl tro, diffyg cefnogaeth i ddiwallu anghenion plentyn, a diffyg amddiffyniad cyfreithiol i’r plentyn oherwydd nad yw’r hawl i apelio ar gael bellach. Byddwn yn dod i gasgliad drwy ganolbwyntio ar oblygiadau ein canfyddiadau ac yn darparu awgrymiadau ar gyfer ymchwil yn y dyfodol i edrych ymhellach ar hyd a lled ac effaith y defnydd o waharddiadau anffurfiol ar draws y DU a’r tu hwnt.

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, dylech ebostio: WISERD.events@cardiff.ac.uk neu ffonio 029 208 75260.