Bydd Cynhadledd Flynyddol WISERD eleni yn cynnwys amrywiaeth eang o siaradwyr, symposia, gweithdai, sesiynau panel, a phrif anerchiad gan yr Athro Christina Beatty (Prifysgol Sheffield Hallam).

Mae’r rhaglen lawn gyda’r holl fanylion i’w gweld isod:

Rhaglen Cynhadledd Flynyddol WISERD 2024

Llyfryn Crynodeb Cynhadledd Flynyddol WISERD 2024

Yn dilyn cyhoeddi dyddiad yr Etholiad Cyffredinol yr haf hwn, mae’r Gwasanaeth Sifil, Cyrff Cyhoeddus Anadrannol a chyrff hyd braich eraill bellach mewn cyfnod cyn-etholiadol. Mae hyn wedi cyfyngu ar rai o’r gweithgareddau y caiff cynrychiolwyr y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol eu cyflawni. Felly, mae’n ddrwg gennym gyhoeddi na fydd ein prif siaradwr arall, Helen Mary Jones, yn gallu cyflwyno.

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, anfonwch e-bost at: WiserdAnnualConference@cardiff.ac.uk neu ffoniwch: 029 2087 5260.