Rhaglen

Llyfryn Crynodeb

 

 

Cyhoeddiad Adroddiad Blynyddol LPIP

Mae Cymru Wledig LPIP Rural Wales yn eich croesawu i ddathlu lansio ein Hadroddiad Blynyddol cyntaf nos Lun, 30 Mehefin.

Rydyn ni’n falch o fod yn noddi derbyniad gyda’r nos cynhadledd flynyddol WISERD, ac i gael y cyfle hwn i gyflwyno ein Hadroddiad Blynyddol sydd newydd ei gyhoeddi. Yr Athro Michael Woods, Cyfarwyddwr Cymru Wledig LPIP Rural Wales bydd yn cyflwyno’r adroddiad. Edrychwn ymlaen at rannu uchafbwyntiau’r flwyddyn ddiwethaf, cyflwyno ein prosiectau ymchwil, ac rydyn ni’n gobeithio ennyn trafodaeth a chydweithredu newydd ymhlith y rhai fydd yno.
Cynhelir derbyniad diodydd a bwffe yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth rhwng 6pm a 8.30pm.

Diolch hefyd i Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi ym Mhrifysgol Aberystwyth, am eu cefnogaeth wrth ariannu’r derbyniad hwn ac am hyrwyddo ymchwil Cymru Wledig LPIP Rural Wales.