Bydd Is-adran Gwasanaethau Dadansoddi Adran yr Economi Llywodraeth Gogledd Iwerddon yn cynnal digwyddiad lansio ar ganfyddiadau Arolwg Sgiliau a Chyflogaeth Gogledd Iwerddon (SES).
Yr Athro Alan Felstead a Rhys Davies o dîm ymchwil SES bydd yn cyflwyno canfyddiadau’r adroddiad sydd i ddod, sef Going Beyond Pay: Job Quality in Northern Ireland – Results from the Skills and Employment Survey, ac yn arwain trafodaethau diddorol.
Dr Caoimhe Archibald MLA, Gweinidog yr Economi, bydd yn agor y digwyddiad ac yn rhoi trosolwg ar sut bydd yn helpu i wneud cynnydd tuag at weledigaeth economaidd yr adran.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ddydd Iau 4 Rhagfyr, rhwng 10.50am a 1pm yn Ystafell Gynadledda llawr gwaelod Tŷ Adelaide.
Mae’r Arolwg Sgiliau a Chyflogaeth yn rhoi data cynhwysfawr ar natur gwaith, y sgiliau a ddefnyddiwyd gan gyflogwyr, ac arferion sy’n esblygu yn y gweithle. Mae’n adnodd gwerthfawr i academyddion a llunwyr polisïau sy’n ceisio deall bywyd gwaith cyfoes a’i gynnydd dros amser. Mae’r adroddiad yn rhoi safbwynt unigryw o lefel y gweithwyr ar nifer o themâu, gan gynnwys:
- Amodau gwaith ac ansawdd swyddi;
- Defnyddio sgiliau a datblygiad;
- Gweithgareddau undebau llafur;
- Amodau cyflogi;
- Hyblygrwydd a dwysedd gwaith;
- Deallusrwydd Artiffisial (DA) yn y gweithle; a
- Gwaith ystyrlon ac ymgysylltu â chyflogeion.
Bydd y cyflwyniad hefyd yn mynd i’r afael â heriau cyflogaeth a sgiliau ehangach sy’n wynebu marchnad lafur ac economi Gogledd Iwerddon.