A oes bwlch pleidleisio ymhlith pobl ag anabledd yn y DU?


Photograph of a polling station sign next to a road

Mae papur newydd gan Samuel Brown ym Mhrifysgol Abertawe a Melanie Jones ym Mhrifysgol Caerdydd yn trin a thrafod i ba raddau y mae cysyniad hysbys y ‘bwlch pleidleisio ymhlith pobl ag anabledd’ a welwn yn yr Unol Daleithiau, lle mae pobl anabl yn llai tebygol o bleidleisio mewn etholiadau o gymharu â’r rhai nad ydynt yn anabl, yn bodoli yn y DU. Mae gan fwlch pleidleisio o’r fath oblygiadau pwysig o ran cynrychiolaeth a dylanwad pobl anabl wrth ddatblygu polisïau, ac mae’n bosibl ei fod yn cynrychioli math ychwanegol o anghydraddoldeb anableddau yn y DU sydd wedi’i esgeuluso.

Gan ddefnyddio data cyfoes o Etholiadau Cyffredinol y DU rhwng 2010 a 2019, canfu’r tîm fwlch pleidleisio ymhlith pobl ag anabledd o 6.2 pwynt canran, a hynny ar ôl addasu ar gyfer nodweddion demograffig. Roedd eu data hefyd yn caniatáu iddynt reoli ystod o sianeli lle gallai anabledd effeithio ar y nifer sy’n pleidleisio, megis gwahaniaethau o ran adnoddau a rhwydweithiau sy’n hwyluso ac yn annog cymryd rhan.

Meddai’r Athro Jones: “Mae ein canlyniadau’n cadarnhau pwysigrwydd adnoddau, gydag anghydraddoldeb economaidd presennol yn ysgogi’r bwlch pleidleisio anabledd. Serch hynny, wrth wneud cymariaethau rhwng pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl sydd â nodweddion demograffig, adnoddau, rhwydweithiau cymdeithasol, a seicoleg debyg, rydym wedi canfod bod anabledd yn parhau i fod yn bwysig, sy’n gyson â rhwystrau ychwanegol mewn perthynas â chymryd rhan.

“Mae ein canfyddiadau felly’n awgrymu y bydd mynd i’r afael ag anghydraddoldebau economaidd presennol yn lleihau’r bwlch pleidleisio hwn, ond bod angen cefnogaeth i alluogi pobl anabl i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth. At hynny, dyma ganfod bod y cymorth hwn yn bwysicach i’r rhai ag anableddau mwy difrifol, y rhai ag anableddau sy’n ymwneud ag iechyd meddwl ac i’r rhai ag anableddau cronig, lle mae’r bwlch pleidleisio anabledd yn fwy.

“Rydym yn dangos bod anabledd hefyd yn ffactor sy’n penderfynu ar ymgysylltu â gwleidyddiaeth, gyda phobl anabl yn dangos llai o ddylanwad gwleidyddol ac yn llai tebygol o weld pleidleisio yn arfer cymdeithasol. Serch hynny, hyd yn oed yn absenoldeb bylchau mewn ymgysylltiad gwleidyddol, mae pobl anabl ychydig yn llai tebygol o bleidleisio.

“Fodd bynnag, trwy ddefnyddio data o etholiadau cyffredinol olynol, nid ydym yn canfod bod newidiadau o ran statws anabledd yn dylanwadu ar y nifer sy’n pleidleisio. Yn hytrach, mae’n awgrymu y gallai fod gwahaniaethau pwysig nad ydym wedi eu gweld rhwng pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl sy’n ysgogi’r bwlch pleidleisio. Mae hyn yn creu cwestiynau ychwanegol ynghylch a yw gwahaniaethau o’r fath yn cael eu hysgogi gan ddewis pobl â thueddiadau gwahanol i bleidleisio mewn perthynas ag anabledd a/neu rôl anableddau hirdymor, yn enwedig yr hyn sy’n digwydd yn ystod genedigaeth neu blentyndod, wrth effeithio ar ymddygiad pleidleisio.”

Darllenwch yr adroddiad llawn.

 

Credyd delwedd: Llun gan Red Dot ar Unsplash


Rhannu