Mae’r rhwydwaith hwn ar gyfer academyddion sydd wrthi’n gwneud ymchwil ryngddisgyblaethol a/neu amlddisgyblaethol i les ac yn ei hyrwyddo ar draws meysydd polisi ac mewn cyd-destunau statudol ac anstatudol sy’n seiliedig ar ymarfer. Mae’r rhwydwaith yn ceisio hyrwyddo ymchwil i les, a hynny mewn gwahanol ddisgyblaethau sy’n cynnwys athroniaeth gymdeithasol a gwleidyddol, polisi cymdeithasol, cymdeithaseg, economeg, daearyddiaeth gymdeithasol, gwyddoniaeth wleidyddol, seicoleg ac iechyd.

Mae hefyd ar gyfer ymgysylltu â llunwyr polisïau, ymarferwyr a defnyddwyr gwasanaethau, ar sail egwyddorion cyd-gynhyrchiol, sy’n cynnwys ‘lleisiau’ anacademaidd yn y broses ymchwil yn systematig. Yn dilyn hynny, bydd y rhwydwaith hefyd yn adlewyrchu agendâu, gwybodaeth a phrofiad rhanddeiliaid anacademaidd allweddol ac yn gweithio ochr yn ochr ag academyddion i gyfrannu at y gwaith o ddatblygu ymyriadau ar sail polisïau ac ymarfer sy’n cael effaith gadarnhaol.

Mae’n debygol y bydd digwyddiadau a gweithgareddau yn y dyfodol yn cynnwys paneli neu weithdai sy’n hyrwyddo ymchwil ryngddisgyblaethol a/neu amlddisgyblaethol i les, lledaenu a rhannu gwybodaeth am ymchwil a gweithgareddau eraill aelodau’r rhwydwaith a hyrwyddo digwyddiadau sy’n rhoi academyddion mewn cysylltiad â llunwyr polisïau, ymarferwyr a defnyddwyr gwasanaethau, ar sail egwyddorion cyd-gynhyrchiol.

Lansiwyd y rhwydwaith hwn yn y digwyddiad ‘Lles a Chyfranogiad Cymdeithasol: Addysg, Ymgysylltu Diwylliannol ac Iechyd’ yn rhan o Gyfres Haf WISERD 2021. Cafodd ei arwain gan academyddion o Brifysgol De Cymru o wahanol ddisgyblaethau: Steve Smith, Marie Clifford, James Rendell ac Emma Wheeler.

Athro Athroniaeth Wleidyddol a Pholisi Cymdeithasol o Brifysgol De Cymru yw Steve Smith, sy’n arwain y rhwydwaith. Mae’n recriwtio i greu tîm arwain i hyrwyddo a datblygu’r rhwydwaith. Felly, os oes gennych ddiddordeb mewn cyfrannu at y rhwydwaith, ebostiwch steve.smith@southwales.ac.uk i gysylltu ag ef.

Dîm Arwain