Caiff WISERD ei reoli a’i lywodraethu gan y Grŵp Gweithredol, y Grŵp Llywio a’r Bwrdd Cynghori.

Grŵp Gweithredol WISERD

Mae Grŵp Gweithredol WISERD yn cynnwys Cyfarwyddwr WISERD a Chyd-gyfarwyddwyr WISERD. Gall aelodau eraill gael eu cyfethol i’r Grŵp Gweithredol. Rôl Grŵp Gweithredol WISERD yw cydlynu rhaglenni ymchwil a seilwaith WISERD; cynnal y cysylltiadau rhwng WISERD a’r sefydliadau sy’n rhan ohono; a chyfrannu at gyfeiriad strategol a chynaliadwyedd WISERD yn y dyfodol.

Aelodau:

Grŵp Llywio WISERD

Mae Grŵp Llywio WISERD yn cynnwys cydweithwyr sydd â chyfrifoldeb strategol dros gyflawni ymchwil gwyddorau cymdeithasol ym mhob un o sefydliadau partner WISERD. Rôl y grŵp yw monitro cyfeiriad cyffredinol gweithgareddau WISERD a chynnig cyngor ar gyflawni ei nodau. Mae hefyd yn chwarae rôl allweddol wrth ddatblygu strategaethau i feithrin cynaliadwyedd y sefydliad.

Aelodau:

 

Aelodaeth Bwrdd Cynghori WISERD

Rôl Grŵp Cynghori WISERD yw rhoi cyngor ar ddatblygiad academaidd WISERD ac ymgysylltu â chymunedau polisi, yn benodol o ran datblygiadau ehangach ar draws y DU ac yn rhyngwladol.

Aelodau:

 

Cynghorwyr Rhyngwladol WISERD