Gwrthbwyso dyfodiad y robotiaid: archwilio’r rhagolygon ar gyfer dynion ifanc ar y cyrion mewn ardaloedd ôl-ddiwydiannol


Dyfodol gwaith

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae penawdau yn y cyfryngau fel: Mae’r robotiaid yn dod i wneud eich swydd chi: a hynny’n gynt nag yr ydych yn meddwl wedi dod yn fwyfwy amlwg. Mae straeon o’r fath yn y cyfryngau yn deillio o ymchwil ar ddyfodol gwaith ac effaith technolegau newydd ac awtomeiddio, sy’n amlinellu dadleuon sy’n cystadlu â’u gilydd ac sy’n ddadleuol iawn. Mae rhai astudiaethau’n dadlau bod dros draean o swyddi’r DU mewn perygl o ganlyniad i awtomeiddio, tra bod eraill yn rhoi amcangyfrifon llawer is.

Fodd bynnag, tybir yn aml mai rhai mathau o gyflogaeth â llaw a phobl ifanc â sgiliau isel, heb lawer o addysg fydd yn wynebu effeithiau anoddaf newidiadau gwaith yn y dyfodol, yn enwedig dynion ifanc.  Mewn ymateb i’r effaith bosibl hon, mae polisi Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn aml yn canolbwyntio ar ddarparu cyfleoedd ar gyfer dysgu gydol oes, gyda’r nod o uwchsgilio unigolion a datblygu poblogaeth fedrus, sy’n barod ar gyfer newid technolegol yn y dyfodol.

Ac eto, mae hyn yn codi’r cwestiwn o sut mae uwchsgilio’r rhai sydd â chysylltiad negyddol neu ddiffyg diddordeb mewn addysg? Os ydym yn methu â mynd i’r afael â’r mater hwn, efallai y bydd rhai dynion ifanc mewn sefyllfa lle nad oes modd iddynt gael swydd yn y dyfodol. Felly, ni fydd modd cyflawni nod Llywodraeth y DU o godi’r gwastad a nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Llywodraeth Cymru o greu Cymru lewyrchus.

Mae fy ymchwil, a leolir mewn hen gymuned lofaol yng nghymoedd de Cymru, yn ceisio cyfrannu at y ddealltwriaeth o faterion o’r fath. Mae’n canolbwyntio ar brofiadau addysgol, dyheadau cyflogaeth a hunaniaeth wrywaidd grŵp o ddynion ifanc dosbarth gweithiol ar y cyrion ac yn ystyried effaith newidiadau cyflogaeth a ragwelir yn y dyfodol.

Mae’r is-grŵp hwn o ddynion ifanc yn cael ei ystyried yn un sydd â hunaniaeth macho, ‘caled’ neu ‘laddish, ac yn aml yn gysylltiedig â bod â dim diddordeb mewn dysgu a dyhead i wneud gwaith llaw, yn aml yn gysylltiedig ag anghydraddoldeb strwythurol, gwaddol gwaith diwydiannol, ac o fod wedi etifeddu gwerthoedd a chredoau gwrywaidd diwydiannol caled traddodiadol a oedd gynt yn hanfodol ar gyfer llafur corfforol.

O ganlyniad, mae llawer o gymunedau ôl-ddiwydiannol yn dioddef o gyfraddau anghymesur o uchel o lefelau isel o gyrhaeddiad addysgol a chanran uchel o bobl sydd wedi’u cyflogi mewn swyddi gwaith llaw.

Canfyddiadau’r ymchwil

Mae fy ymchwil wedi cynnwys astudiaeth o grŵp o ddynion dosbarth gweithiol 21-37 oed a oedd wedi gwrthod yr ysgol ac addysg yn fwy eang o ganlyniad i ganfyddiad ei bod yn amherthnasol, gan archwilio eu profiadau cyflogaeth a’u perthnasoedd gan ddefnyddio dulliau ansoddol, gan gynnwys cyfweliadau lled-strwythuredig a thechnegau gweledol.

Roedd y canfyddiadau’n dangos rhywfaint o gysylltiad â’r ddealltwriaeth bresennol o ddynion dosbarth gweithiol ar y cyrion ac yn dangos bod traddodiadau cymunedol a gwrywdod yn ddylanwad o ran diddordeb y cyfranogwyr mewn cyflogaeth gwaith llaw. Roedd yr hyn sy’n apelio am swyddi llaw yn cynnwys eu natur gorfforol, manteision canfyddedig o ran iechyd, ac ymwybyddiaeth cyfranogwyr o les personol.

Mae’r pryder am iechyd personol yn gwyro, i ryw raddau, oddi wrth yr arferion sy’n niweidiol i iechyd sy’n aml yn gysylltiedig â rhai syniadau traddodiadol o wrywdod ac yn dangos rhywfaint o newid mewn credoau.

Gallwch ddarllen y canfyddiadau ymchwil hyn yn y cyhoeddiad newydd hwn: 

Education, Work and Social Change in Britain's Former Coalfield Communities - book cover

Mewn cydweithrediad â chanolfan ieuenctid, canolbwyntiodd fy ymchwil ychwanegol ar sampl iau o ddynion ifanc dosbarth gweithiol 12-21 oed ar y cyrion, gan ddefnyddio ethnograffeg a dulliau ansoddol, gan gynnwys cyfweliadau lled-strwythuredig a thechnegau gweledol. Datgelodd y canfyddiadau cynnydd o ran newid ymddygiadol a safbwyntiau. Roedd rhai o’r newidiadau hyn yn cynnwys:

1) Ymagwedd bragmatig at addysg yn lle gwrthwynebiad i ddysgu, lle roedd y dynion ifanc yn dewis ac yn cymryd rhan mewn nifer fach o bynciau addysgol yr ystyriwyd eu bod yn angenrheidiol ar gyfer y gyflogaeth a oedd o ddiddordeb, tra’n gwrthod y rhai a oedd yn cael eu hystyried yn amherthnasol.

2) Dangoswyd hefyd rai enghreifftiau mwy meddal o wrywdod a sgiliau cymdeithasol ac emosiynol y rhagwelir y bydd galw amdanynt yn sgil newidiadau i fyd gwaith yn y dyfodol hefyd, gan gynnwys sensitifrwydd, empathi, tosturi a pharodrwydd i gyffwrdd.

3) Roedd rhywfaint o wyriad hefyd oddi wrth y ffocws ar gyflogaeth gwaith llaw a oedd yn ganlyniad amgylchiadau cymdeithasol penodol a’r hyn yr wyf yn cyfeirio ato fel proses o rwygo neu ansefydlogi credoau gwrywaidd sy’n gysylltiedig â llafur diwydiannol corfforol.

Yr arwyddocâd

Mae’r canfyddiadau yn ein galluogi i ystyried y posibilrwydd y gallai safbwyntiau ac ymddygiad dynion ifanc dosbarth gweithiol cyfoes ar y cyrion fod yn newid rhywfaint.  Felly mae’n bwysig cynnal ymchwil ychwanegol i archwilio’r posibilrwydd hwn ymhellach, ac i ystyried ffyrdd y gallwn fanteisio ar y newidiadau a’u meithrin, gyda’r nod yn y pen draw o weithio gyda dynion ifanc i greu rhaglenni ac ymyriadau wedi’u targedu i’w paratoi ar gyfer newidiadau technolegol yn y dyfodol.

Yna gallem ddechrau meddwl am gyflogaeth yn y dyfodol ar wahân i waith llaw a’r posibilrwydd go iawn o gyflawni’r nod o godi’r gwastad, ac o greu Cymru lewyrchus sy’n galluogi pawb i gyflawni eu potensial waeth beth fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau.

______________

Mae Richard Gater yn gymrawd ymchwil ôl-ddoethurol yng Nghanolfan Ymchwil Cymdeithas Sifil WISERD.  Mae ei waith yn canolbwyntio ar brofiadau addysgol, dyheadau cyflogaeth a hunaniaeth wrywaidd dynion ifanc dosbarth gweithiol ar y cyrion mewn hen gymuned lofaol yng nghymoedd de Cymru.

 

Llun Gan Possessed Photography ar Unsplash


Rhannu