Yn ddiweddar, cyhoeddodd yr Adran Busnes a Masnach yr ystadegau swyddogol diweddaraf ar aelodaeth o undebau llafur yn y DU. Mae ffigurau’n awgrymu y gallai’r gostyngiad hirdymor mewn aelodaeth o undebau llafur fod wedi sefydlogi yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Ar draws pedair gwlad y DU, yn yr Alban y gwelwyd y cynnydd mwyaf mewn aelodaeth o undebau llafur – gan gynyddu o 27% yn 2024 i dros 29% yn 2025. Yn y blog hwn, rydym yn edrych ar Eilean Siar, rhan anghysbell o’r Alban sydd ag un o’r cyfraddau uchaf o aelodaeth o undebau llafur yn y DU. Drwy ddefnyddio data o WISERD UnionMaps, rydym yn ystyried y rhesymau pam, a beth allai hyn ei olygu i genedlaethau’r dyfodol.
Etholiadau Seneddol yr Alban
Yn ystod etholiadau Senedd yr Alban yn 2026, cafodd Eilean Siar (sydd hefyd yn cael ei galw’n Ynysoedd Allanol Heledd neu’n Ynysoedd y Gorllewin) gryn sylw gwleidyddol yn yr Alban am gyfnod byr. Mewn canlyniad hynod annisgwyl, cipiodd Plaid Lafur yr Alban etholaeth Ynysoedd y Gorllewin, Na h-Eileanan an Iar, o drwch blewyn. Hwn oedd y tro cyntaf ers bron i ddau ddegawd i bobl yr Ynysoedd beidio ag ethol aelod o’r SNP i’w cynrychioli.
Roedd y trafodaethau yn ystod yr ymgyrch etholiadol yn ymwneud yn bennaf â’r rhwystredigaethau cynyddol ynghylch dibynadwyedd y gwasanaeth fferi sy’n eiddo i’r wladwriaeth, a’r cysylltiadau â’r tir mawr. Serch hynny, roedd yn ganlyniad annisgwyl yn ystod noson a oedd fel arall yn un wael i’r Blaid Lafur.
Traddodiad o lafur trefnus
Fodd bynnag, efallai nad oedd y fuddugoliaeth hon i’r Blaid Lafur mor annisgwyl o ystyried y traddodiad nodedig o lafur trefnus sydd wedi cyfrannu ers amser maith at y ffaith mai ras rhwng dau geffyl yw Ynysoedd y Gorllewin yn wleidyddol. Ar un adeg roedd gan ddiwydiannau fel pysgota penwaig, y llynges fasnachol a chynhyrchu Brethyn Harris, rôl hollbwysig yn economi’r ynysoedd.
Mae cerfluniau ym mhorthladd Stornoway i gofio am Ferched Penwaig crwydrol enwog yr Hebridëaidd a gymerodd ran mewn streiciau yn ystod y 1930au. Ym 1938, gosododd docwyr Stornoway waharddiad ar fewnforio edafedd o’r tir mawr i gefnogi melinwyr a gwehyddion yr ynysoedd. Fe wnaeth yr achos cyfreithiol nodedig a ddilynodd – ac a ddyfarnodd o blaid y docwyr – dynnu sylw at bwysigrwydd trefniadaeth gyfunol ymhlith gweithwyr Eilean Siar.
Heddiw, Eilean Siar sydd â’r ganran uchaf yn yr Alban (40%) o gyflogaeth yn y sector cyhoeddus, ac mae’r gyfran fwyaf o weithwyr y sector cyhoeddus yn gweithio ym meysydd Iechyd a Gwaith Cymdeithasol. Mae cyflogwyr eraill sy’n gysylltiedig â darparu gwasanaethau cyhoeddus a seilwaith yn cynnwys y cyngor lleol , y porthladd, meysydd awyr yr ynysoedd, dosbarthu ynni ac ym maes darlledu (Stornoway yw cartref gwasanaeth cyfryngau Gaeleg BBC Alba*) . Y tu hwnt i’r sector cyhoeddus fodd bynnag, amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgota yw’r diwydiant mwyaf o bell ffordd yn Eilean Siar ac mae i’w gyfrif am bron i draean o’r rhai sydd mewn cyflogaeth.
Mapiau Undeb WISERD
Sut allai’r patrwm cyflogaeth hwn ddylanwadau ar aelodaeth o undebau llafur ar draws Eilean Siar? Mae gwefan UnionMaps WISERD yn datgelu mai Eilean Siar yw un o’r lleoedd sydd â’r nifer fwyaf o undebau llafur nid yn unig yn yr Alban, ond ledled Prydain Fawr. Mae’r data’n datgelu bod bron i hanner y gweithwyr (48%) yn aelodau o undeb llafur. Mae aelodaeth o undeb yn Eilean Siar hyd yn oed yn uwch nag ydyw ar hyd Afon Clud mewn ardaloedd fel Gorllewin Dunbartonshire (41%), Renfrewshire (35%) ac Inverclyde (37%) sydd â’u hanes hir eu hunain o adeiladu llongau ac actifiaeth wleidyddol. Yn wir, Eilean Siar yw’r ail le mwyaf undebol ym Mhrydain Fawr. Dim ond Copeland yn Cumbria, cartref cyfleuster prosesu niwclear Sellafield, sy’n fwy undebol.
Mae Eilean Siar yn enghraifft arall o bwysigrwydd lle wrth nodi patrymau cyfoes aelodaeth o undebau. Mae ymchwil flaenorol gan WISERD wedi dangos sut mae lefelau aelodaeth o undebau lleol yn uchel o hyd mewn hen gymunedau meysydd glo, a hynny ddegawdau ar ôl y dirywiad mewn mwyngloddio glo. Gall agweddau cadarnhaol tuag at undebau llafur gael eu trosglwyddo ar draws cenedlaethau a pharhau i ddylanwadu ar sut mae gweithwyr yn deall cysylltiadau ym myd cyflogaeth. Ar ben hynny, mae Eilean Siar yn gallu dangos sut mae’r gorffennol yn cyfuno â’r presennol i gynnal lefelau uchel o aelodaeth o undebau llafur yn y rhan anghysbell a hardd hon o’r Alban.
*Rydym yn ddiolchgar i David Avery o Undeb Prospect am rannu ei arbenigedd ar ffynonellau posibl o gyflogaeth undebol ar Eilean Siar.
Credyd llun: Virtual-Pano, CC BY-SA 4.0, drwy Wikimedia Commons
