Sut des i yn aelod o Griw Cinio Nadolig Caerdydd


Rwy’n gydymaith ymchwil addysg WISERD ym Mhrifysgol Caerdydd yn sbarc|spark, parc ymchwil gwyddorau cymdeithasol cyntaf y byd. Un o amcanion sbarc|spark yw annog cydweithio a meddwl yn greadigol, ond do’n i byth yn disgwyl ymuno â Chriw Cinio Nadolig Caerdydd a helpu i gynllunio cinio Nadolig i bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal.

Yn WISERD, rwy’n gweithio ar y prosiect Excluded Lives. Mae’r prosiect hwn yn ceisio deall gwaharddiadau o ysgolion ar draws pedair awdurdodaeth y DU. Fel rhan o’r prosiect, siaradais i â staff yr ysgol am bobl ifanc sy’n agored i niwed ac sydd mewn perygl o gael eu gwahardd o’r ysgol. Un o’r ffactorau sy’n gallu gwneud pobl ifanc yn agored i waharddiad ysgol yw cael profiad gofal. Er bod polisïau a gweithdrefnau ar waith i atal hyn rhag digwydd.

Yn ystod cyfweliadau, dywedodd staff yr ysgol wrtha’i am Josh. Roedd ganddo “lawer iawn o botensial” ond roedd yn cael trafferth gyda’i ymddygiad. Roedd yn byw mewn cartref preswyl ond roedd yn awyddus i fyw gyda’i fam. Wedi’r Nadolig, dirywiodd ei ymddygiad, cafodd ei wahardd o’r ysgol ac aeth i ysgol arall. Roedd staff yr ysgol yn teimlo bod yr hyn oedd wedi digwydd adeg y Nadolig yn cael effaith arno yn cael ei wahardd o’r ysgol.

Tua’r un pryd, gofynnodd staff CASCADE, canolfan ymchwil arall sydd wedi’i lleoli yn sbarc|spark, i mi a oeddwn am fod ar y pwyllgor llywio ar gyfer Cinio Nadolig Caerdydd. Neidiais ar y cyfle i fod yn rhan o gynllunio cinio Nadolig arbennig ar gyfer pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yng Nghaerdydd. Fe wnes i wirfoddoli i fod yn gyfrifol am anrhegion. Pan fynegodd pobl ifanc eu diddordeb mewn dod, gwnaethon ni ofyn iddynt am eu hoff liwiau a hobïau. Roedd hyn yn ein helpu i ddewis anrhegion a fyddai’n bersonol iddyn nhw , fel esgidiau pêl-droed a thalebau ar gyfer profiadau. Cawson nhw hefyd seinyddion a’r sanau a’r ‘smellies’ traddodiadol.

Fe wnaeth fy ngŵr a minnau wirfoddoli ar Ddydd Nadolig. Aeth popeth yn dda iawn. Cawson ni gwrs cyntaf a chwaraegemau bwrdd gyda’r bobl ifanc. Gwnaethon ni weini cinio Nadolig i bawb. Roedd y bobl ifanc wrth eu boddau gyda’u cinio Nadolig ac yn dweud ei fod yn flasus. Roedd y bwyd wedi ei roi gan Milk a Sugar yn sbarc|spark, ac roedd cogydd gwirfoddol wedi ei goginio.

Ar ôl cinio daeth agor yr anrhegion. Ro’n i’n poeni ein bod ni wedi prynu’r anrhegion hollol anghywir! Ddylwn i ddim bod wedi poeni. Roedd y bobl ifanc i gyd yn hapus gyda’u anrhegion. Ro’n nhw’n gwerthfawrogi popeth, hyd yn oed y pethau bach fel y farnais ewinedd yn eu hoff liw.  Rhoddoddy pobl ifanc adborth bod Cinio Nadolig Caerdydd wedi bod yn arbennig am ei fod wedi ei drefnu ar eu cyfer. Yn y gorffennol, pan gawson nhw wahoddiad i ginio Nadolig, ro’n nhw wedi teimlo fel ‘ychwanegiad’.

Mae Criw Cinio Nadolig Caerdydd yn cynllunio Cinio Nadolig Caerdydd eto ar gyfer 2023. Byddwn ni hefyd yn cynnal digwyddiad yn y gofod digwyddiadau yn sbarc|spark ar 6ed o Ragfyr lle gall pobl gwrdd â Chriw Cinio Nadolig Caerdydd a chael gwybod mwy am y digwyddiad neu adael anrhegion.

Os hoffech chi gyfrannu arian, cliciwch ar y ddolen, ac os hoffech chi wirfoddoli i wneud unrhyw beth o’r lapio anrhegion i helpu ar y diwrnod mawr, e-bostiwch: thecardiffchristmasdinner@gmail.com

 


Rhannu