Athrawon Cymraeg yn colli cannoedd o oriau gwaith yn cyfieithu


Person using laptop in dark

Mae cannoedd o oriau gwaith yn cael eu gwastraffu oherwydd nad oes gan athrawon adnoddau iaith a rennir yn ganolog. Er gwaethaf datblygiadau diweddar yn y defnydd o lwyfannau dysgu rhithwir fel Hwb (sydd ar gael i ysgolion yng Nghymru am ddim ers 2012), nid oes gan athrawon sydd heb adnoddau Cymraeg ar gyfer eu gwersi fynediad at gyfieithiadau o adnoddau eraill.

O dan y drefn bresennol, pe bae athro am ddefnyddio gwerslyfr cyfoes neu unrhyw adnodd arall a ddatblygwyd y tu allan i Gymru mewn dosbarth cyfrwng Cymraeg, bydd rhaid iddynt ei gyfieithu ei hunain. Gall y cynnydd hwn yn y baich gwaith ar gyfer athrawon cyfrwng Cymraeg fod yn bwydo i mewn i’r gyfradd o bobl sy’n gadael addysg fel proffesiwn, sydd yn barod yn uchel, ar adeg pan fo Llywodraeth Cymru eisoes yn cyflwyno mesurau ychwanegol i gynyddu’r nifer o athrawon cyfrwng Cymraeg sy’n cael eu recriwtio.

Yn ôl cyfweliadau ansoddol gydag arweinwyr ysgol a gynhaliwyd fel rhan o arolwg blynyddol Astudiaeth Aml-garfan Addysg WISERD o ysgolion uwchradd, mae ysgolion Cymru yn cyfieithu adnoddau pwrpasol eu hunain ar sail ad hoc.

Mae hyn oherwydd bod llai o adnoddau addysgu ar gael yn y Gymraeg ac oherwydd bod y Gymraeg yn iaith leiafrifiedig yn hanesyddol – effaith a deimlwyd yn arbennig yn ystod twf addysg orfodol. Mae athrawon cyfrwng Cymraeg yn gorfod datrys problemau a grëwyd gan yr effeithiau hanesyddol:

…dwi ‘di gwario oriau ac oriau ac oriau yn cyfieithu. Wel ‘di hwnna ddim yn deg. […] Mae athrawon cyfrwng [Cymraeg] yn gorfod gweithio nifer fawr fwy o oriau nag athrawon di-Gymraeg”

Cyfweliad L4

Disgrifir yr un sefyllfa ar draws ysgolion cyfrwng Saesneg a Chymraeg:

“be sy’n drist… Mae CBAC yn cyfieithu llyfrau, mae’r athrawon yn cyfieithu nhw hefyd ac erbyn i’r llyfr ddod allan, falle bod yna ddeg, pymtheg o wahanol bobl wedi cyfieithu nhw. […] Mae pawb yn ail greu yr olwyn.”

Cyfweliad L1

Mae penaethiaid yn mynegi rhwystredigaeth fawr ynghylch y gwaith sy’n cael ei ailadrodd ar draws ysgolion yng Nghymru, gan ddeall yr effaith ar eu staff.

“Ni gyd yn neud yr un swydd mewn mannau gwahanol […] ‘S neb yn cyd-drefnu fe.”

Cyfweliad L4

Y rhwystredigaeth yw bod oriau staff yn mynd i gyfieithu – swydd fedrus ynddi’i hun – sy’n effeithio naill ai ar eu lles neu o bosibl yn tynnu sylw oddi wrth bwyslais ar ddulliau addysgu a dyletswyddau eraill sy’n ganolog i unrhyw rôl addysgu.

Pwysleisiwyd hefyd frys y cyfieithiadau gan ddau arweinydd ysgol. Er bod cyrsiau newydd a chwricwla newydd wedi’u cynllunio ers blynyddoedd, mae’n ymddangos bod cyfieithu deunyddiau i’r Gymraeg yn ôl-ystyriaeth yn y broses hon. Yn ogystal â bod yr adnoddau presennol yn ddegawdau oed (gwerslyfr gwyddoniaeth hyd yn oed yn cyfeirio at francs fel arian), mae adnoddau Cymraeg yn cael eu rhyddhau flwyddyn neu ddwy ar ôl y rhai Saesneg ar gyfer yr un cwrs newydd.

“Wel, os ydyn nhw eisiau bod yn gyfartal, ddyle’r cwrs ddim cael ei, ei gynnig oni bai bod yr adnoddau i gyd ar gael.”

Cyfweliad L1

Mae cydlynu cyfieithiadau proffesiynol o adnoddau newydd a diddorol o bosib yn profi’n anhydrin ac yn gostus iawn, ond gallai cydlynu ystorfa ar-lein o adnoddau sydd eisoes wedi’u cyfieithu a digolledu athrawon am eu gwaith fod yn gyfaddawd teg ar gyfer yr oriau gwaith a fuddsoddwyd eisoes. Byddai ymdrech ganolog fesul maes pwnc yn sicrhau cyfraniad – neu iawndal –  cyfartali bob ysgol.

Mae’r egwyddor sylfaenol a theg y dylai baich gwaith athrawon fod yn eithaf cyfartal o un ysgol i’r llall hefyd yn croesi ffin. Mae athrawon sy’n ymwybodol o’r baich ychwanegol a roddir ar athrawon cyfrwng Cymraeg yn dewis mynd â’u sgiliau i rywle arall, er bod ganddynt y proffil sydd ei angen yng Nghymru:

“dwi’n nabod llawer o athrawon sy’n dysgu mewn ysgolion Saesneg er bod nhw’n rhugl [yn y Gymraeg], oherwydd y gwahaniaeth yn y gwaith […] mae rhai o ffrindiau fi yn dweud, o ‘dwi ddim yn neud e rhagor, dwi’n mynd i gael yr un pae mewn ysgol Saesneg, yn gwneud llai o waith!’”

Cyfweliad L4

Mae addysgu fel proffesiwn eisoes yn ei chael hi’n anodd denu a chadw staff oherwydd pwysau gwaith a baich gwaith na ellir ei reoli. Felly, mae diffyg cydlynu canolog ar gyfieithu adnoddau  nid yn unig yn cynyddu’r oriau gwaith  athrawon cyfrwng Cymraeg ac, yn wir, ar ba mor gyflym y bydd deunyddiau newydd yn cyrraedd disgyblion, ond mae’r diffyg hefyd yn cyfrannu at yr anawsterau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael wrth gynyddu nifer yr athrawon Cymraeg.

Llun gan Anastasia Nelen ar Unsplash.


Rhannu