ROBUST: Dychmygu dyfodol y Gymru wledig


Amlygodd pandemig Covid-19 a Brexit, gyda’i gilydd, lawer o’r heriau sy’n wynebu cefn gwlad Cymru, o fynediad gwael at wasanaethau a phobl ifanc yn symud i ffwrdd, i or-ganolbwyntio ar dwristiaeth a dibyniaeth ar farchnadoedd allforio Ewropeaidd.

Ar yr un pryd, wrth i Gymru lywio’r adferiad ôl-bandemig a pharatoi polisïau a rhaglenni ôl-Brexit, ceir cyfleoedd i fynd i’r afael â phroblemau mewn ffyrdd newydd a gwneud pethau’n wahanol. Y foment dyngedfennol hon oedd y cyd-destun ar gyfer gwaith ymchwilwyr WISERD ym Mhrifysgol Aberystwyth – yr Athro Michael Woods, Dr Jesse Heley a Dr Bryonny Goodwin-Hawkins – ym mhrosiect ROBUST (Rhagolygon Gwledig-Trefol: Datgloi Synergeddau), a ddaeth i ben ym mis Tachwedd 2021.

Prosiect a ariannwyd gan raglen Horizon 2020 yr UE oedd ROBUST, ac roedd yn cynnwys consortiwm o ymchwilwyr ac ymarferwyr ledled Ewrop fu’n edrych ar sut y gall synergeddau gwledig-trefol gefnogi datblygiadau craff yng nghefn gwlad. Ffurfiodd pob un o’r 11 rhanbarth astudiaeth achos ‘Labordy Byw’, gydag ymchwilwyr yn gweithio gyda phartner ymarfer: yng Nghymru, Fforwm Gwledig Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA), oedd y partner hwn a gynrychiolodd y naw awdurdod lleol sy’n wledig yn bennaf.

Gan ddilyn ymagwedd o’r gwaelod i fyny, diffiniodd pob ‘Labordy Byw’ ei brosiect ei hun o fewn fframwaith ROBUST. Yng Nghymru, penderfynwyd canolbwyntio ar greu Gweledigaeth Wledig i amlinellu blaenoriaethau o ran datblygu cefn gwlad a pholisïau.

I helpu i gynhyrchu’r Weledigaeth Wledig, aeth tîm ymchwil WISERD ati i gasglu a dadansoddi tystiolaeth ar gyflwr economaidd-gymdeithasol y Gymru wledig, cyfweld â rhanddeiliaid, cynnal arolwg ar-lein, a hwyluso gweithdai gydag academyddion a rhanddeiliaid. Cymeradwywyd dogfen y Weledigaeth Wledig a ddeilliodd o hynny, a ategwyd gan Adroddiad Tystiolaeth sylweddol, gan Fforwm Gwledig WLGA, ac fe’i lansiwyd ym mis Ionawr 2021.

Mae dogfen y Weledigaeth Wledig yn nodi saith blaenoriaeth i sicrhau bod adferiad ôl-Covid yn y Gymru wledig yn deg ac yn gynaliadwy: Arallgyfeirio a gwyrddu’r economi wledig; datblygu sgiliau a chyfleoedd y gweithlu gwledig; buddsoddi mewn seilwaith digidol a pharatoi ar gyfer trafnidiaeth ôlgarbon; annog twristiaeth ehangach a chynaliadwy; darparu tai fforddiadwy sy’n diwallu anghenion cymunedau gwledig; cefnogi trefi bach drwy Fenter Trefi Smart; a grymuso cymunedau a chadw cyfoeth o fewn economïau lleol.

Mae’r awgrymiadau a gyflwynwyd yn y Weledigaeth Wledig wedi ennyn cefnogaeth grwpiau rhanddeiliaid yng nghefn gwlad Cymru ac maent yn llywio datblygiad Rhaglen Datblygu Gwledig newydd gan Lywodraeth Cymru. Mae aelodau WISERD wedi bod yn weithgar yn hyrwyddo’r Weledigaeth Wledig ac yn annog trafodaeth barhaus ar y materion y maent yn eu codi, gan gynnwys trwy gyfres o bodlediadau a gomisiynwyd yn arbennig a’i harwain gan gyn-Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.

 

Llun: Shutterstock


Rhannu