Mae Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru / ymchwilwyr WISERD@Aberystwyth yn cymryd rhan mewn astudiaeth Ewropeaidd i ymchwilio i ryngweithiadau rhwng ardaloedd gwledig a threfol a sut y gellir eu rheoli’n fwy effeithiol. Mae ROBUST yn brosiect ymchwil Ewropeaidd sy’n cynnwys 24 partner o 11 gwlad. Mae’n cael ei gydlynu gan Brifysgol Wageningen yn yr Iseldiroedd. Mae’r prosiect yn derbyn arian gan raglen ymchwil ac arloesedd Horizon 2020 yr Undeb Ewropeaidd o dan gytundeb grant rhif 727988. Dechreuodd prosiect ROBUST ym mis Mehefin 2017 a bydd yn para am 48 mis tan 2021.

Arweinir y cyfraniad gan Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru a Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD) gan yr Athro Michael Woods a Dr Jesse Heley, sy’n gweithio’n agos gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), sydd hefyd yn bartneriaid yn y consortiwm. Drwy gysylltu partneriaid academaidd a pholisi, mae’r prosiect ROBUST yn gobeithio sicrhau bod yr ymchwil yn canolbwyntio ar faterion sy’n berthnasol i lunwyr polisi ac yn cynhyrchu argymhellion ymarferol ar gyfer eu gweithredu. Bydd Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru / WISERD a CLlLC yn gweithio gyda’i gilydd ar gyfres o astudiaethau achos yng Nghymru a fydd yn archwilio’r rhyngweithiadau rhwng ardaloedd gwledig a threfol sy’n ymwneud â systemau bwyd cynaliadwy, cysylltiadau diwylliannol a gwasanaethau cyhoeddus.

Nodau cyffredinol y prosiect ROBUST yw:

a) gwella’n dealltwriaeth o’r rhyngweithiadau a’r dibyniaethau rhwng ardaloedd gwledig, o gwmpas trefi a threfol; a

b) nodi a hyrwyddo polisïau, modelau llywodraethu ac arferion sy’n meithrin cydberthnasau sydd o fudd i’r ddwy ochr.

Bydd gwell trefniadau llywodraethu a synergeddau rhwng ardaloedd gwledig, o gwmpas trefi a threfol, yn eu tro, yn cyfrannu at dwf craff, cynaliadwy a chynhwysol Ewrop, gan arwain at greu’r mwyaf posibl o swyddi gwledig a chynyddu’r gwerth a ychwanegir i’r eithaf.

Er mwyn cyflawni’r nodau hyn, mae’r prosiect ROBUST yn gweithio gydag 11 Labordy Byw a phum Cymuned Ymarfer fel a ganlyn:

Labordai Byw

Mae Labordy Byw ROBUST yn fath o gydweithrediad arbrofol sy’n seiliedig ar le sy’n pwysleisio cyd-greu mewn lleoliad yn y byd go iawn. Mae llunwyr polisi, ymchwilwyr, busnesau, darparwyr gwasanaethau, dinasyddion a rhanddeiliaid eraill yn gweithio gyda’i gilydd i ddatblygu a phrofi ffyrdd newydd o ddatrys problemau mewn rhanbarth daearyddol penodol. Mae’r prosiect ROBUST yn cynnwys 11 Labordy Byw sy’n cynrychioli lleoliadau gwledig-trefol arferol ledled Ewrop.

Cymunedau Ymarfer

Mae Cymuned Ymarfer yn gymuned o bobl sy’n rhannu diddordeb, arfer neu broblem gyffredin, sy’n rhannu gwybodaeth a phrofiadau â’i gilydd er mwyn gwella’r hyn y maent yn ei ddysgu am yr arfer penodol hwnnw. Mae’r Cymunedau Ymarfer yn y prosiect ROBUST wedi’u trefnu o gwmpas pum thema wledig-drefol sy’n darparu fforwm strwythuredig ar gyfer rhannu profiadau a chanfyddiadau o’r Labordai Byw ROBUST amrywiol. Mae’r pum Cymuned Ymarfer yn cynnwys y canlynol: Modelau Busnes Newydd a Marchnadoedd Llafur, Seilwaith Cyhoeddus a Gwasanaethau Cymdeithasol, Systemau Bwyd Cynaliadwy, Cysylltiadau Diwylliannol, a Gwasanaethau Ecosystemau.

Cewch ragor o wybodaeth o wefannau’r canlynol: 

Gwefan ROBUST

Gwefan Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru / WISERD@Aberystwyth