Cystadleuaeth posteri myfyrwyr PhD – noddir gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru a Phartneriaeth Hyfforddiant Doethurol ESRC Cymru

Mae myfyrwyr PhD yn cael cyfle i gyflwyno a thrafod eu posteri yn ystod egwyl cinio a lluniaeth cynhadledd flynyddol WISERD. Yn ystod egwyl lluniaeth y prynhawn ddydd Mercher 6 Gorffennaf, bydd cyfle hefyd i gyflwyno a thrafod cynnwys eu posteri gyda phanel adolygu.

Cyhoeddir yr enillydd ddydd Iau 7 Gorffennaf. Bydd gwobrau ar gael ar gyfer y posteri sydd yn y safleoedd cyntaf, ail a thrydydd (a byddant yn cynnwys arian parod a thocynnau llyfrau).

Os oes gennych gwestiynau ynglŷn ag arddangos eich poster neu’r gystadleuaeth posteri, ebostiwch WISERDAnnualConference@caerdydd.ac.uk a byddwn yn fwy na pharod i helpu.