Cynhadledd Flynyddol WISERD 2023
Prifysgol Bangor
Dydd Mercher 28 a dydd Iau 29 Mehefin 2023

 

Thema ein Cynhadledd Flynyddol yw ‘Cymdeithas sifil a llywodraethu mewn oes o argyfwng‘.

Mae ein thema yn adlewyrchu heriau byd-eang ac argyfyngau lluosog sy’n siapio cymdeithas sifil, economi a llywodraethu. Rydym yn dyst i fraw cynyddol am dlodi ac anghydraddoldeb cynyddol ar draws y byd wedi’i siapio gan argyfwng ynni byd-eang a chostau byw cynyddol. Yn ogystal, mae pryder cynyddol ynghylch newid yn yr hinsawdd a dirywiad amgylcheddol a’r llifoedd mudo dilynol; goblygiadau gweithredu dinesig mwy radical a newidiadau mewn cymdeithas sifil; a galwadau byd-eang am newidiadau i fodelau cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol.

 

Mae argoel y bydd y gynhadledd yn rhoi cyfle i gydweithwyr o bob rhan o’r sector academaidd, polisi, cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector rwydweithio a thrafod gwaith ymchwil rhyngddisgyblaethol arloesol o Gymru a thu hwnt sy’n canolbwyntio ar ddulliau a fabwysiadwyd mewn amrywiaeth eang o feysydd polisi. Mae gennym ddiddordeb mewn clywed gan gydweithwyr am y meysydd pwnc canlynol, yn enwedig os ydynt yn cyd-fynd â heriau cyfoes:

 

  • Argyfyngau byd-eang a lleol, llywodraethu, a chymdeithas sifil
  • Newid yn yr hinsawdd, lle a chymdeithas sifil
  • Cyfranogiad iaith, diwylliant a hunaniaeth
  • Gwaith, gallu i fyw a chyfiawnder cymdeithasol
  • Daearyddiaethau anghydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol
  • Cysylltiadau byd-eang Cymru: cymdeithas sifil a chyfranogiad mewn cyd-destun
  • Cyfranogiad a chymdeithas sifil trwy gwrs bywyd
  • Cymryd rhan mewn addysg a’r farchnad lafur
  • Gweithio gyda chymunedau
  • Ymchwil actifiaeth a chymdeithas sifil
  • Gwneud ymchwil gyfranogol a gweithredol

 

Croesewir hefyd bapurau a phosteri ar bynciau eraill o fewn y thema nad ydynt yn dod o dan yr is-themâu uchod.

Eleni, hoffem wahodd cynigion am gyflwyniadau papur, sesiynau rhyngweithiol/gweithdai, posteri/arddangosion, neu golocwia mewn unrhyw ddisgyblaeth sy’n ymgysylltu â’r gwyddorau cymdeithasol.

 

Canllawiau cyflwyno

  1. Rhaid defnyddio’r ffurflen dempled ar gyfer cyflwyno crynodebau.
  2. Dylid cyflwyno pob crynodeb o gynnig neu syniad ar wahân.
  3. Gellir cyflwyno cynigion yn Gymraeg neu Saesneg.
  4. Caiff yr holl gyflwyniadau eu hadolygu gan Bwyllgor Adolygu WISERD. Swyddogaeth y pwyllgor yw sicrhau bod rhaglen gytbwys o sesiynau’n cael ei datblygu sy’n seiliedig ar berthnasedd, galw, anghenion ac amseru datblygiad proffesiynol. Efallai na fydd yn bosibl cynnwys yr holl gynigion a syniadau, ond hoffem ddiolch i bawb ymlaen llaw am eu hymdrechion ac am gymryd diddordeb mewn cefnogi Cynhadledd Flynyddol WISERD 2023.
  5. Cyhoeddir hysbysiadau o dderbyn ym mis Mawrth 2023 ac unwaith y bydd y rhaglen wedi’i threfnu’n derfynol, caiff cyfranwyr gadarnhad o ddyddiad ac amser eu sesiwn. Gofynnir i siaradwyr llwyddiannus gyflwyno eu deunyddiau sesiwn manwl yn ystod y gwanwyn.
  6. Mae’n bosibl y gofynnir i siaradwyr llwyddiannus gyflwyno mewn fformat gwahanol.
  7. Os cewch eich derbyn fel siaradwr bydd angen i chi gofrestru fel cynrychiolydd yn y ffordd arferol, a chadw eich lle yn ystod y cyfnod archebu cynnar, sef 20 Mawrth – 15 Mai 2023.

 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno crynodebau yw 9am ddydd Gwener, 10 Chwefror 2023.

Anfonwch eich crynodebau i WISERDAnnualConference@caerdydd.ac.uk.

 

Byddwch yn ymwybodol bod y llety sydd ar gael ar gyfer cynhadledd WISERD eleni yn gyfyngedig. A wnewch chi roi gwybod i ni cyn gynted â phosibl os oes angen llety arnoch naill ai ar 27 neu 28 Mehefin, a bydd eich enw yn cael ei ychwanegu at restr aros. Yn anffodus, ni allwn warantu llety i bawb a fydd yn bresennol a byddwn yn darparu hyn ar sail y cyntaf i’r felin.

 

Edrychwn ymlaen at gael eich papur ac at gynhadledd gyffrous yn 2023.