Cyflwynwyd gan Steve Smith.

 

Gwyddwn fod cydrannau corfforol, meddyliol a chymdeithasol lles yn bwysig i iechyd. Fodd bynnag, mewn ymchwil ac ymarfer iechyd, mae llawer o’r pwyslais wedi bod ar les corfforol a meddyliol. Mae llai o sylw’n cael ei roi i gydrannau cymdeithasol sydd, yn ein barn ni, yn cael effaith niweidiol ar ddatblygiad polisïau ac arferion iechyd. Mewn ymateb, rydym yn creu teclyn sy’n mesur ansawdd profiad cyffredinol ymatebwyr o les cymdeithasol, gan ddefnyddio ymarfer Mapio Cysyniad Grŵp (GCM). Ein nod yw gwerthuso polisïau ac ymarfer iechyd yn systematig, yn enwedig rhagnodi cymdeithasol.

 

E-bost wiserd.events@cardiff.ac.uk ar gyfer y ddolen Zoom