Cyflwynwyd gan Dr Laura Arman
Erbyn Cyfrifiad 2021, roedd amryw o bolisïau ac ymgyrchoedd yn eu lle er mwyn cadw cynnydd mewn siaradwyr Cymraeg ifainc, ond roedd effeithlonrwydd yr ymdrechion hyn i weld wedi gostwng yn yr 20 mlynedd ers gweld cynnydd. Dangosodd y ffigyrau diweddaraf ostyngiad unwaith eto. Beth yw safbwyntiau cyfredol pobl ifainc am ddysgu Cymraeg felly ac a oes mwy i’w ddysgu o’r safbwyntiau hyn am effeithlonrwydd polisïau?
Mae Astudiaeth Aml-Garfan addysg WISERD (WMCS) yn gyfle i ni holi’r bobl ifainc yn uniongyrchol am eu profiadau. Yn wahanol i’r Cyfrifiad, mae’n rhoi cyfle i ddisgyblion o ysgolion ar draws Cymru rannu eu safbwyntiau yn uniongyrchol heb i ni ddibynnu ar ganfyddiadau eu rhieni neu warchodwyr. Er bod hunan-asesu sgiliau ieithyddol yn ffordd amherffaith o asesu gallu a defnydd (Zajícová 2020), yn 2022, roedd cyfran sylweddol o’r holiadur ar agweddau’r plant tua’r Gymraeg. O blith y 1154 o ddisgyblion a gymerodd rhan yn ein 10fed astudiaeth flynyddol, cawsom ymateb gan hyd at 960 o ddisgyblion ar ein cwestiynau ar eu perthynas â’r Gymraeg.
Mewn sawl cymuned sy’n siarad ieithoedd lleiafrifol a lleiafrifiedig, mae pobl yn troi at addysg ffurfiol mewn ystafell ddosbarth fel datrysiad i’r broblem o shifft ieithyddol neu ‘golli iaith’ ar lefel gymdeithasol (Hermes 2007; Hornberger 2008; Hinton 2011; Pérez Báez, Vogel a Patolo 2019, Riestenberg 2020). Rhan amlaf, mae rhieni yn rhoi’r gorau i drosglwyddo eu hieithoedd brodorol oherwydd pwysau allanol; un ai pwysau rhyngbersonol uniongyrchol neu ar lefel polisi gan lywodraeth neu sefydliad â grym yn lleol. Yn y DU, fel mewn gwledydd cyfagos, penderfynwyd darparu addysg drwy gyfrwng Saesneg yn unig yn y 19eg Ganrif a dim ond erbyn diwedd yr 20fed Ganrif gwelwyd nifer y siaradwyr Cymraeg yn codi unwaith eto yn ôl Cyfrifiad Cymru a Lloegr. Y nifer o siaradwyr iau oedd ar gynnydd bryd hynny – arwydd da bod effeithiau polisi addysg negyddol y gorffennol yn diflannu, ond erbyn 2021 roedd y niferoedd wedi gostwng unwaith eto ymysg siaradwyr iau yn enwedig.
Ymhlith y disgyblion oedd yn “siarad Cymraeg yn dda,” doedd 40% ddim yn siarad Cymraeg adref gyda’u teuluoedd. Mae’r nifer sylweddol hwn yn dangos llwyddiannau addysg ddwyieithog yng Nghymru, sydd yn aml yn arwain y ffordd mewn astudiaethau o bolisi ieithyddol (De Bres 2008). Ar y llaw arall, roedd bron i 50% o ddisgyblion sy’n siarad Cymraeg yn dda wedi adrodd nad oeddynt yn teimlo’n hyderus yn siarad Cymraeg yn y dosbarth o flaen eu hathrawon (un ai weithiau neu byth). Mae’r niferoedd oedd yn hyderus yn y dosbarth yn gostwng yn sylweddol wrth edrych ar rheini gydag “ychydig” o Gymraeg. Roedd 63% o’r disgyblion yn yr arolwg yn ansicr neu’n credu nad oedd pobl yn falch o’u clywed yn siarad Cymraeg yn yr ysgol. Mae ein canlyniadau hefyd yn dangos tuedd negyddol sylweddol ers 2014 mewn agweddau tuag at bwysigrwydd siarad a dysgu Cymraeg ymysg plant mewn ysgolion cyfrwng Saesneg. Fel y disgwyl, mae rhaniadau eraill yn ôl cyfrwng ieithyddol yr ysgolion, e.e. roedd dros hanner y disgyblion o’r ysgolion cyfrwng Saesneg yn teimlo nad oedd yr iaith Gymraeg yn rhan o’u hunaniaeth o gwbl.
Bydd y seminar felly yn rhoi trosolwg o ganlyniadau cwestiynau iaith y WMCS ac yn cyflwyno dadansoddiad pellach o’r rhwystrau sy’n arafu cynnydd mewn siaradwyr ifanc.
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, dylech ebostio: WISERD.events@cardiff.ac.uk neu ffonio 029 208 75260