Bydd y sesiwn hon yn rhoi trosolwg o egwyddorion ac arferion Ymchwil Agored. Byddwn yn archwilio newidiadau sy’n mynd rhagddynt o ran tirwedd y byd academaidd, a’r symud tuag at ymchwil agored yn y byd hwn. Byddwn yn cyflwyno’r egwyddorion FAIR o ran ymchwil agored, yn ogystal â’r manteision a’r pryderon ynghylch arferion ymchwil agored. Bydd pedwar maes ymchwil agored yn cael eu trafod mewn perthynas â’r cylch bywyd ymchwil: mynediad agored, cofrestru ymlaen llaw, rhannu codau a data, a fersiynau cyn-argraffu.
Bydd y sesiwn yn galluogi cyfranogwyr i nodi arferion sy’n gysylltiedig â Gwyddoniaeth Agored ac ymchwil FAIR, i ddeall manteision a chyfyngiadau ymchwil agored, a dewis arferion ac offer priodol i fod yn gymorth ar gyfer cynnal ymchwil agored yn eu gwaith.
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, dylech ebostio: WISERD.events@cardiff.ac.uk neu ffonio 029 208 75260.