Mae Cymru’n aml yn cael ei defnyddio fel enghraifft o arloesi ar ddatblygu cynaliadwy. Hyrwyddo lles a chenedlaethau’r dyfodol yw’r datblygiad diweddaraf. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn arwydd o newid mewn polisi cyhoeddus tuag at y rhai sydd heb eu geni eto. Mae arloesedd sefydliadol yn atgyfnerthu hynny drwy Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus er mwyn cynrychioli anghenion cenedlaethau’r dyfodol yn well. Mae gwaith diweddar Swyddfa Archwilio Cymru a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn tynnu sylw at yr enillion sydd wedi’u gwneud wrth gynllunio ar gyfer yr hirdymor ond hefyd at yr heriau gwirioneddol o ran gwneud penderfyniadau sy’n canolbwyntio ar y dyfodol. Dwy o’r anawsterau pwysicaf a wynebir gan y sector cyhoeddus wrth gynllunio ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yw:
1. Meddwl am genedlaethau’r dyfodol yn hytrach na dyfodol cenedlaethau’r presennol yn unig, a
2. Llunio modelau datblygu sy’n gallu herio taflwybrau cyfredol. Y rhagdybiaeth yw y bydd cenedlaethau’r dyfodol yn well eu byd oherwydd dros amser bydd yr economi’n tyfu ac felly bydd eu lles yn gwella.
Gallai’r argyfwng COVID-19 presennol ddwysáu’r ddwy broblem ymhellach gan fod ymdrechion yn canolbwyntio ar orwelion tymor byrrach ac yn atgynhyrchu arferion datblygu sy’n bodoli eisoes. Felly, bydd yn amser da i greu sefyllfa lle bydd cyfle i ail-feddwl.
Rhaglen i’w chadarnhau.
Siaradwyr
Yr Athro Andrew Flynn, Dr Alan Netherwood, Yr Athro Kevin Morgan, Prifysgol Caerdydd
Deborah Hardoon, Pennaeth Tystiolaeth a Dadansoddi, What Works Centre er Lles
Yr Athro Rhys Jones, Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau’r Ddaear, Prifysgol Aberystwyth
Dr Jane Davidson, Rhag Is-Ganghellor Emeritus, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Cyfieithu ar y pryd
Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â iande@caerdydd.ac.uk erbyn 12/11/2020 i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.
Cofrestru
Mae’n ddrwg gennym nad yw’r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg. Yn anffodus nid yw’r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio’n cynnig y gwasanaeth hwn.
Cofnodi Digwyddiad
Sylwch y bydd y digwyddiad hwn yn cael ei recordio.