A hithau’n flwyddyn ers cyfnod clo cyntaf y Cofid, bydd y digwyddiad hwn a fydd ar agor i’r cyhoedd, yn rhad ac am ddim, yn trafod sut mae’r pandemig wedi effeithio ar gefn gwlad Cymru; sut mae cymunedau a’r gwasanaethau cyhoeddus wedi ymateb; a’r anghenion ar gyfer adfer ar ôl COVID-19. Bydd y panelwyr yn ymdrin â gwahanol elfennau o gefn gwlad – busnesau, diwylliant, gofal iechyd, gwasanaethau cyhoeddus a grwpiau cymdeithasol sy’n agored i niwed.

Bydd y digwyddiad yn dechrau â chyflwyniad byr gan yr Athro Michael Woods (Cyd-Gyfarwyddwr, Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru, Prifysgol Aberystwyth), yn rhoi crynodeb o ganlyniadau ymchwil i effaith COVID-19 ar yr economi wledig yng Nghymru a’r argymhellion ar gyfer adfywio ar ôl y pandemig a geir yn ‘Gweledigaeth ar gyfer Cymru wledig’, a gynhyrchwyd ar y cyd â Fforwm Gwledig CLlLC (Cyngor Llywodraeth Leol Cymru).

Bydd cyflwyniadau byr gan y panelwyr wedyn, gan gynnwys:

  • Guy Evans (Cymdeithas Gofal)
  • Dr. Wyn Morris (Ysgol Fusnes Aberystwyth, Prifysgol Aberystwyth)
  • Dr. Caroline Turner (Cyngor Sir Powys)
  • IGEG (Sector gofal iechyd)

Bydd y digwyddiad yn cael ei gadeirio gan y Dr. Anwen Elias (Cyd-Gyfarwyddwr, Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru, Prifysgol Aberystwyth).

Bydd cyfle i godi cwestiynau a thrafod atebion.

Digwydd dwyieithog; darperir cyfieithu ar y pryd.

 

Ar ôl i chi gofrestru ar gyfer y digwyddiad, byddwch yn derbyn cadarnhad dros e-bost a fydd yn cynnwys manylion mewngofnodi ar gyfer y cyfarfod Zoom. I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad, cysylltwch â car62@aber.ac.uk

Nodwch fod bydd y digwyddiad yn cael ei recordio a’i uwchlwytho i YouTube yn dilyn cyfnod o embargo. Dilëir y recordiad wedi 5 mlynedd. Bydd hwn yn helpu gwneud y digwyddiad a’r wybodaeth yn fwy hygyrch i bobl.

Disgwyliwn ymlaen i’ch croesawu i’r digwyddiad.

 

Trefnir y digwyddiad hwn gan CWPS-WISERD, Prifysgol Aberystwyth.

https://cwps.aber.ac.uk/cy/ Twitter: @CWPSAber