Bydd y digwyddiad hwn yn dechrau drwy gyflwyno gwefan Deall Lleoedd Cymru (UWP) cyn mynd ati i gynnal gweithdy rhyngweithiol ac ymarferol.

Mae Deall Lleoedd Cymru yn rhoi data defnyddiol a gwybodaeth ddaearyddol i chi am eich tref neu ardal leol. Mae’r graffeg, y mapiau a’r canllawiau ar y wefan wedi cael eu datblygu i’ch galluogi i archwilio’r data sydd ei angen arnoch i’ch helpu i nodi cyfleoedd i’ch cymuned leol a gwneud gwahaniaeth yn y lle rydych chi’n byw neu’n gweithio.

Mae’r wefan yn cynnwys gwybodaeth am y 307 lle yng Nghymru sydd â 1,000 neu ragor o drigolion, ac mae gwybodaeth fanylach ar gael ar gyfer y 193 o leoedd sydd â 2,000 o drigolion neu ragor. Gellir gweld data ar gyfer lleoedd llai drwy’r offeryn Mapiau Cymdogaethau.

Mae pob tudalen lle yn darparu data am:

1. Nodweddion demograffeg, cymdeithasol ac economaidd ardal;

2. Pa wasanaethau ac asedau cymunedol sydd ar gael, gan gynnwys trafnidiaeth gyhoeddus; a

3. Sut mae pobl yn symud rhwng lleoedd, fel cymudo a phatrymau mudo.

Yn rhan o’r digwyddiad hwn, dangosir sut y gallwch ddefnyddio’r data am eich ardal leol i’ch helpu i ddeall ble rydych chi’n byw yn well.

Bydd y gweithdy hwn hefyd yn dangos i chi sut i ddefnyddio teclyn cymharu’r wefan a dulliau dosbarthu lleoedd i nodi tebygrwydd a gwahaniaethau rhwng lleoedd. Gall cymharu lleoedd roi syniadau i chi ar gyfer eich lle, neu gynnig cyfleoedd i gydweithio a rhannu strategaethau llwyddiannus gyda rhanddeiliaid mewn mannau tebyg i’ch lle eich hun.

Bydd y digwyddiad yn canolbwyntio’n benodol ar Gaerdydd a de Cymru. Rydym yn cynnal digwyddiad ar wahân sy’n canolbwyntio ar Fangor a gogledd Cymru.