Cyflwyniad i MALlC a Chartograffeg yn QGIS

Bydd y cwrs hwn yn rhoi trosolwg o beth yw MALlC (Mynegai Amddifadedd Lluosog ar gyfer Cymru) i gyfranogion a sut gallant ddefnyddio QGIS i lunio mapiau gwych o ddata MALlC, a sut i estyn hyn i setiau data eraill. Byddwn yn adolygu rhai o egwyddorion sylfaenol llunio mapiau yn QGIS ac yna’n ehangu’r wybodaeth hon i gynnwys amrywiaeth o dechnegau, gan gynnwys data cefndir, tryloywder, labeli, plotiau a llawer o nodweddion eraill. Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol i’r rheiny sydd â rhywfaint o brofiad o GIS (QGIS yn ddelfrydol), ond sydd am ddysgu am Fynegai Amddifadedd Lluosog newydd Cymru ac ehangu eu gwybodaeth am y nodweddion cartograffig yn QGIS.

 

Ar ôl y cwrs hwn, bydd cyfranogion yn:
– Gallu llwytho data i mewn i QGIS
– Gallu symboleiddio’r data hwn mewn amrywiaeth o ffyrdd
– Deall beth sy’n gwneud map da
– Gwybod sut i greu map gwych yn QGIS
– Hyderus yn ychwanegu nodweddion ychwanegol at fapiau yn QGIS, gan gynnwys labeli a phlotiau
– Hyderus yn ymchwilio i sut i wneud pethau yn QGIS a Gosodiad Argraffu
Bydd gwybodaeth am sut i gofrestru ar gael cyn bo hir