Fe’i cynhelir gan yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio mewn partneriaeth â Chanolfan Gydweithredol y DU ar gyfer Tystiolaeth Tai (CaCHE) a Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD).
Ar 1 Mai eleni, cafodd yr Adolygiad Annibynnol am y Cyflenwad o Dai Fforddiadwy yng Nghymru ei gyhoeddi – yr adolygiad mwyaf pellgyrhaeddol am dai yng Nghymru ers dros ddegawd. Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol bellach wedi ymateb yn ffurfiol i’r adroddiad, gan dderbyn holl argymhellion yr Adroddiad mewn egwyddor ond un (sydd ar y gweill). Mae Llywodraeth Cymru a’r sector tai yng Nghymru bellach yn troi eu sylw at ba newidiadau allai fod eu hangen er mwyn gwneud yn siŵr y gellir cynnig tai fforddiadwy er mwyn diwallu anghenion o ran tai yng Nghymru.
Bydd y digwyddiad hwn yn cynnull aelodau allweddol o’r Panel Adolygu ynghyd â llunwyr ac ymarferwyr polisi er mwyn asesu
(a) pa gynnydd sydd wedi’i wneud o ran gweithredu argymhellion yr Adolygiad a
(b) beth yw’r prif heriau.
Bydd siaradwyr o Lywodraeth Cymru a’r sector tai cymdeithasol yn ystyried amrywiaeth o broblemau gan gynnwys dyfodol rhenti tai cymdeithasol yng Nghymru (a chwestiynau ynghylch fforddiadwyedd a gwerth am arian), cynigion am fodel newydd o gyllid grant i ategu’r ddarpariaeth o dai fforddiadwy a’r cyfleoedd i gydweithio er mwyn cyflwyno tai mwy fforddiadwy.
Gan fod lleoedd yn brin, cofrestrwch yn gynnar i fynd i’r digwyddiad amserol hwn.
Cynhelir y digwyddiad hwn trwy gyfrwng y Saesneg.