Cynhadledd undydd, rhad ac am ddim, a noddir gan Grŵp Thematig Iaith, Diwylliant a Hunaniaeth WISERD. Mae’n agored i academyddion, ymarferwyr, llunwyr polisi, a phartïon eraill sydd â diddordeb. Croesewir cyflwynwyr a gwylwyr fel ei gilydd, ond mae angen i bawb gofrestru isod.

Mae’r lleoliad 10 munud o waith cerdded o’r orsaf rheilffordd: https://goo.gl/jpWEpI. Bydd angen trwydded parcio ar y rheini sy’n gyrru (nodwch hyn ar y ffurflen isod). Mae lleoedd parcio i bobl anabl ar gael ar y safle.

Y prif siaradwr fydd yr Athro John Edwards o Brifysgol St Francis Xavier, Canada: https://en.wikipedia.org/wiki/John_Robert_Edwards.

Dylai papurau a chyflwyniadau ymdrin â rôl a lle’r Gymraeg yn y gweithle (diffinnir yn fras). Mae’r rôl honno wedi peri pryder gwleidyddol, polisi a chyhoeddus dros y blynyddoedd diwethaf. Nod y gynhadledd yw dwyn ynghyd academyddion o wahanol ddisgyblaethau, ynghyd â llunwyr polisi, ymarferwyr a chyflogwyr er mwyn trafod y berthynas rhwng yr iaith Gymraeg a byd gwaith.

O gofio mai lledaenu arbenigeddau ar draws y sectorau yw’r bwriad, nid oes rhaid i gyflwyniadau fod yn seiliedig ar ymchwil empirig sylfaenol. Gallant, er enghraifft, ddisgrifio polisïau ac arferion yn y gweithle ar draws sefydliad neu sector penodol, gan gynnig syniadau gwreiddiol ynghylch gweithredu a fyddai o ddiddordeb i gynulleidfa gymysg.
At hynny, croesawn gyfraniadau gan siaradwyr ar yr is-themâu canlynol yn arbennig, neu ar unrhyw themâu sy’n berthnasol i nodau eang y gynhadledd:

•Symudedd Cymdeithasol;
•Defnyddio iaith yn y gweithle;
•Polisi iaith yn y gweithle;
•Iaith a’r farchnad lafur;
•Iaith gwaith
•Addysg a hyfforddiant;
•Y cyd-destun cyfreithiol ar gyfer defnyddio iaith yn y gwaith;
•Cyfieithu.

Bydd pob cyflwyniad wedi’i gyfyngu i 30 munud (20 munud a sesiwn holi ac ateb 10 munud). Croesewir sgyrsiau yn Gymraeg, Saesneg neu Iaith Arwyddion Prydain, a darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

I’r rheini sy’n wynebu rhwystrau rhag dod i’r digwyddiad (e.e. symudedd, cyfrifoldebau gofalu) rhowch nodyn yn y blwch isod a byddwn yn gwneud ein gorau glas i’ch cefnogi.

Mae’n bosibl y bydd y trefnwyr hefyd yn trefnu trafodaeth bord gron, a bydd croeso i’r holl gyfranogwyr cofrestredig gyfrannu.

Resources

The presentations given at this event can be downloaded using the links below:

Dr Elisabeth Barakos, School of Languages & Social Sciences, Aston University. Welsh Language Policy in the Workplace

Dr Teresa Crew, School of Social Sciences, Bangor University. The Welsh Language and the Workplace

Dr Rhian Hodges & Dr Cynog Prys, School of Social Sciences, Bangor University. Welsh Language Use in the Community

Dr Llion Jones, School of Welsh, Bangor University. Seeing Beyond the Data: Research and Practice to Increase the Use of Welsh in the Workplace

Dr Stefan Machura, School of Social Sciences, Bangor University. Welsh language preference and trust in the police

Professor R. Gwynedd Parry, Director of Learning and Teaching, College of Law, Swansea University. Y Gymraegyny “Gweithle” Cyfreithiol: Cymreictody Farnwriaeth

Eileen Tilley,  School of Social Sciences, Bangor University. New Speakers of Welsh in the North Wales Workplace

Gaynor Williams & Anna Jones, Cardiff University. Realising Welsh Medium Education and the Role of Clinical Mentorship: A Collaborative Approach