Cyflwynwyd gan Susie Ventris Field
O’r holl nodau yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, y nod sydd heb gael ei weithredu na’i ddeall orau yw’r nod ‘Cymru sy’n gyfrifol yn fyd-eang’ – sut y gall polisi ac arfer yng Nghymru gael effaith gadarnhaol ar lesiant byd-eang, neu o leiaf osgoi niwed. Mae Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru wedi gweithio gyda phartneriaid i ymchwilio i sut gallai Cymru sy’n gyfrifol yn fyd-eang edrych, ond mae bylchau enfawr yn y dystiolaeth. Diben y drafodaeth hon yw trin a thrafod sut y gall, ac y dylai, Cymru gyfrannu at lesiant byd-eang, a sut yr ydym yn deall ac yn mesur cynnydd.
Ebostiwch wiserd.events@caerdydd.ac.uk i gael y ddolen Zoom