Bydd ein cynhadledd haf 2023 yn rhoi sylw i arfer da sector tai Cymru ac yn ennyn trafodaeth ar sut y gallwn wneud rhagor yn y sector tai a’r tu hwnt.

Mae’r digwyddiad yn agored nid yn unig i’r rheiny sy’n gweithio ym maes tai, ond hefyd i unrhyw un sydd â diddordeb mewn rhoi economeg sylfaenol ar waith.

Gyda’n gilydd byddwn ni’n edrych ar:• Arloesedd cymdeithasol gan sector tai Cymru mewn perthynas â bywioldeb sylfaenol trwy gefnogi incwm, gwasanaethau hanfodol a seilwaith cymdeithasol yn ein cymunedau.

• Sut i wneud mwy drwy greu cynghreiriau cydweithredol lleol a sut i ledaenu a rhannu ein dysgu i bob rhan o’r maes tai ac i mewn i sectorau eraill.

Adroddiadau ar arloesedd cymdeithasol yn y sector: Jas Baines (Hafod), Steve Cranston (Sero Net Llywodraeth Cymru), Simone Devinett (RHA Cymru), Lorraine Oates (Cymoedd Merthyr Tudful), Wyn Pritchard (Sero Net a sgiliau), Victoria Keen (Carbon Homes, Newcastle)

Trafodwyr a hwyluswyr: Alan Brunt (Bron Afon), Jonah Earle (People’s Economy), Debbie Green (Coastal Housing), Yr Athro Kevin Morgan (Prifysgol Caerdydd), Yr Athro Ian Rees Jones (Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru), Stuart Ropke (Cartrefi Cymunedol Cymru)

Trefnwyr y Gynghrair: Yr Athro Karel Williams, Jo Quinney a Keith Edwards

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, dylech ebostio: WISERD.events@cardiff.ac.uk neu ffonio 029 208 75260