Rydym wedi cyhoeddi adroddiad briffio gweithdy: ‘Gwerthuso, Effaith a Chanlyniadau ym maes gweithio gyda phlant ac ieuenctid wrth hyrwyddo ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol’’ sy’n adrodd ar drafodaethau gweithdy a drefnwyd gan Ganolfan Ymchwil Cymdeithas Sifil y Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) sy’n cael ei hariannu gan yr ESRC. Nod y gweithdy a gynhaliwyd fis Chwefror 2019 dwyn ynghyd ymarferwyr yn ymwneud â gweithgareddau hyrwyddo ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol gyda phlant a phobl ifanc, yn benodol yng Nghymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon ac Iwerddon. O ran cyd-destun, mae gwaith ieuenctid a gwaith gyda phlant a phobl ifanc yn wynebu heriau ynghylch sut i werthuso a dangos effaith a chanlyniadau eu gwaith. Ceisiodd y gweithdy ddarparu man ar gyfer trafod profiadau, i gyfrannu at adeiladu capasiti, i rannu a chreu arfer da ac i adnabod camau nesaf posibl o ran gwerthuso, effaith a chanlyniadau yn y gwaith o hyrwyddo ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol.
Diolch yn fawr i’r rhai o’r sector a fynychodd y gweithdai am eu mewnbwn a diolch i’r Urdd am gael defnyddio’r ganolfan.

 

 

Adnoddau yn deillio o’r gweithdy:

 

Gwerthuso ac asesu effaith yng nghyd-destun gweithio gyda phlant a phobl ifanc mewn gweithgaredd hyrwyddo iaith leiafrifol a rhanbarthol – arferion cyfredol a datblygu arferion?
Yr Athro Rhys Jones a Dr Elin Royles (Prifysgol Aberystwyth) a Dr Fiona O’Hanlon (Prifysgol Caeredin)

 

Urdd Gobaith Cymru

Catrin James (Urdd)

 

‘The Birth of the Political’- envisioning, empowering and sustaining an Irish medium youth sector in the north of Ireland

Dr Feargal Mac Ionnrachtaigh (Glór na Móna)

 

Cyflwyniad 4. Cumann na bhFiann, Caitríona Ní Cheallaigh

 

Experiences of impact, evaluation and outcomes in language promotion work with children and young people

Dòmhnall MacNèill (Comunn na Gàidhlig)

 

Dull y NMA

Yr Athro Rhys Jones (Prifysgol Aberystwyth) a Catrin James (Urdd)

 

Asier Basurto Arruti (Soziolinguistika Klusterra):

Language Use Observation Survey Methods

Proposal for Monitoring Factors that Affect Young People’s Language Use

 

The whys and wherefores of data in the evaluation of language revitalisation efforts

Hywel Jones (Statiaith)

 

Lleisiau Bach – Little Voices a’r dull Plant Fel Ymchwilwyr

Arwyn Roberts (Prifysgol Bangor) a Jane Williams (Prifysgol Abertawe)

 

Trefnodd y prosiect weithdy blaenrol ynghylch gwerthuso, effaith a chanlyniadau yng nghyd-destun gwaith ieuenctid yng Nghymru. Mae’r adroddiad briffio a sleidiau’r ddau gyflwyniad yn y digwyddiad hwnnw ar gael yma.