Er gwaethaf elfennau cyffredin i’w gwaith a’r cyfleoedd a’r heriau a wynebir ganddynt, cyn y gweithdy hwn, ychydig iawn o ryngweithio a fu rhwng mudiadau sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc ym maes hyrwyddo iaith ar draws y pedwar achos: Cymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon. O ganlyniad, nod y gweithdy oedd darparu man ar gyfer trafod profiadau, i gyfrannu at adeiladu capasiti, i rannu a chreu arfer da ac i ganfod camau nesaf posibl o ran gwerthuso, effaith a chanlyniadau yn y gwaith o hyrwyddo iaith.