Cyflwynwyd gan Yr Athro W. John Morgan, Cymrawd Emeritws Leverhulme WISERD, a rhwydwaith ymchwil y Gymdeithas Sifil.

Roedd W. John Morgan yn Gomisiynydd Ysgolheigaidd y Gymanwlad ar gyfer y Deyrnas Unedig rhwng 2002-2008; ac yn Gadeirydd Comisiwn Cenedlaethol y Deyrnas Unedig UNESCO, 2010-2013.

Wrth i ni symud drwy’r 21ain ganrif a nodwyd gan wrthdaro arfog, gwrtholeuaeth, ffwndamentaliaeth, ac anoddefgarwch o safbwyntiau eraill, mae cydweithredu deallusol a diwylliannol yn hanfodol er mwyn cynnal ein dynoliaeth gyffredin.  Mae cyfnewid o’r fath wedi’i gyfiawnhau gan ddelfryd ddyngarol o les cyffredin byd-eang fel y dangosodd pandemig Covid-19. Ar yr un pryd, mae wedi bod yn offeryn o ‘bŵer meddal’ ideolegol neu ddiplomyddiaeth ddiwylliannol. Bydd y seminar yn ystyried y tensiwn rhwng y safbwyntiau delfrydaidd a realaidd hyn ar wleidyddiaeth cydweithredu deallusol rhyngwladol.

I ymuno â ni, ebostiwch wiserd.events@caerdydd.ac.uk i gael y ddolen Zoom.