Bydd y digwyddiad hwn yn ystyried sut mae mudwyr o Ewrop yn cyfrannu at gymdeithas sifil yng Nghymru.
Bydd ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Roehampton yn trafod canfyddiadau prosiect ymchwil (a gynhaliwyd rhwng 2016 a 2017) a wnaeth ystyried yr amryw ffyrdd y mae mudwyr o Ewrop yn cymryd rhan mewn mudiadau a gweithgareddau cymdeithas sifil yng ngwahanol rannau o Gymru. Roedd y prosiect hefyd yn archwilio sut mae cymryd rhan mewn cymdeithas sifil yn effeithio ar yr ymdeimlad o berthyn ymhlith mudwyr. Bydd y digwyddiad yn dod ag amrywiaeth o randdeiliaid ynghyd i drafod y gwersi o’r ymchwil hon, a sut y gellid eu defnyddio i lywio polisïau ac arferion.
Bydd y digwyddiad yn cynnwys trafodaeth banel a sesiwn holi ac ateb lle bydd ymarferwyr yn trafod eu profiadau o fudo yn yr UE a chymdeithas sifil. Bydd yn ystyried syniadau newydd a ffyrdd newydd o feddwl am fudo a chymdeithas sifil, gan ganolbwyntio ar brofiadau, arferion a heriau cyffredin. Bydd y digwyddiad o ddiddordeb penodol i weithwyr yn y trydydd sector a llunwyr polisïau.
I gloi’r digwyddiad, bydd cinio bwffe a chyfle i rwydweithio.