ESRC Festival of Social Science 2021 Banner

 

 

Mae’r digwyddiad hwn yn ystyried manteision systemau bwyd cymunedol.

Mae pandemig COVID-19 wedi amlygu faint mae’r system fwyd fyd-eang yn agored i niwed ac wedi ysgogi llawer ohonom i chwilio am ddewisiadau eraill sy’n fwy lleol, gwydn a chynaliadwy. Mae systemau bwyd cymunedol, fel hybiau bwyd ac amaethyddiaeth a gefnogir gan y gymuned, yn dal sylw’n gyflym am eu bod yn addo cynnig dewisiadau eraill o’r fath. Drwy feithrin perthynas agosach rhwng cynhyrchwyr lleol a defnyddwyr, mae’r systemau hyn yn cynnig cymorth i gynhyrchu bwyd ar raddfa fach yn ecolegol ac yn sicrhau bod bwyd tymhorol ac iach o ffynonellau dibynadwy ar gael i bobl.

Ymunwch â ni er mwyn gwrando ar banel o arbenigwyr yn rhannu eu profiadau a’u gwybodaeth arbennig am waith, manteision a heriau systemau bwyd cymunedol. Bydd gennych gyfle hefyd i holi cwestiynau ac ystyried y cyfleoedd y gall systemau bwyd cymunedol eu rhoi i chi.

Mae’r siaradwyr yn cynnwys:

o    Tony Little (Cydlynydd Systemau Bwyd Gwydn a Lleol) –
o    Dr Amber Wheeler (The Food Foundation) –
o    Gerald Miles (Amaethyddiaeth a Gefnogir gan y Gymuned, Caerhys Organic Community Agriculture) –
o    Dr Giaime Berti (Scuola Superiore Sant’Anna, Rhwydwaith Polisïau Bwyd Lleol yr Eidal)

Mae’r digwyddiad ar-lein hwn yn cael ei gynnal gan Dr Bernd Bonfert, Cydymaith Ymchwil yn Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru, ac yn rhan o Ŵyl Gwyddorau Cymdeithasol ESRC ym Mhrifysgol Caerdydd.